Abaty Dinas Basing: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I, File: → Delwedd: using AWB
Cadw'n bennaf
Llinell 1:
[[Delwedd:BasingwerkPriory.JPG|250px|bawd|Abaty Dinas Basing.]]
[[Abaty]] canoloesol yn [[Sir y Fflint]] yw '''Abaty Dinas Basing''' ([[Saesneg]]: ''Basingwerk Abbey''). Saif ger pentref [[Maes-glas]], i'r gogledd o dref [[Treffynnon]], ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac mae yng ngofal [[Cadw]]. Yn yr Oesoedd Canol gorweddai yng [[Cwnsyllt|nghwmwd Cwnsyllt]], [[cantref]] [[Tegeingl]].
 
Sefydlwyd yr abaty ym [[1132]] gan [[Iarll Caer]], gyda mynachod o [[Savigny]]. Fe'i sefydlwyd ar safle gwahanol, ond roedd wedi ei ail-sefydlu ar y safle presennol cyn [[1157]]. Ym 1147 daeth yn rhan o [[Urdd y Sistersiaid]], o dan [[Abaty Buildwas]]. Yn y [[13eg ganrif|drydedd ganrif ar ddeg]] roedd [[Llywelyn Fawr]] yn noddwr i'r abaty, a rhoddwyd [[Ffynnon Gwenffrewi]] i'r abaty gan ei fab, [[Dafydd ap Llywelyn]]. Caewyd y fynachlog ym [[1536]].
Llinell 6:
 
Roedd gan nifer o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] gysylltiad ag Abaty Dinas Basing. Cysylltir yr abaty â [[Llyfr Du Basing]], llawysgrif a ysgrifennwyd gan y bardd [[Gutun Owain]] (bl. 1460-1500). Roedd yr abaty yn arbennig o lewyrchus dan yr abad olaf ond un, [[Thomas Pennant (abad)|Thomas Pennant]], oedd yn nodedig fel noddwr beirdd.
 
Cadw sy'n gyfrifol amdano; yn 2015 peintiwyd sloganau ar furiau'r abaty gan fandaliaid a chafwyd cryn feirniadaeth o Cadw am fethu a gwarchod yr heneb.<ref>[http://leaderlive.co.uk/news/146031/outrage-after-vandals-daub-graffiti-at-abbey-ruins.aspx#.VRj8I07uAUQ.twitter Papur The Leader;] adalwyd 30 Mawrth 2015</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==