David Thompson (mapiwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
{{Authority control}}
ychwanegu ei deithiau yng Nghanada
Llinell 16:
Roedd '''David Thompson''' (Ebrill 30, 1770 – Chwefror 10, 1857) yn fasnachwr ffwr ac yn [[map|fapiwr]] a weithiai yng Ngogledd America, ac a oedd o dras [[Cymru|Gymreig]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8354658.stm BBC Wales news report]. Adalwyd 15 Chwefror 2015.</ref>
 
Wedi i'w rieni gyrraedd Llundain, o Gymry, cafodd ei eni yn [[Westminster]]. Bu farw ei dad pan oedd yn ddwy oed ac fe'i magwyd yn y ''Grey Coat Hospital', ble y llwyddodd mewn [[mathemateg]] a dysgodd y grefft o fforio (neu 'fordwyo'). Yn 14 oed aeth i weithio i Ganada gyda'r ''The Hudson's Bay Company (HBC)''. Ym Mai 1784, glaniodd yn [[Churchill]]. Ym mis Hydref 1789,cafodd o wahoddiad i fynd ar daith i ardal [[Athabasca]] efo [[Philip Turnor a [[George Hudson]]. Roedd Turnor tirfesurydd swyddogol Cwmni Bae Hudson a dysgodd Thompson ei grefft. Ym Medi 1792 aeth o i fyny [[Afon Churchill]], yn chwilio am ffordd ferrach i Athabasca. Ar ôl treulo 3 blynedd yn teithio [[Manitoba]], aeth o yn ôl i fyny Afon Churchill ac [[Afon Carw]], i [[Llyn Wollaston|Lyn Wollaston]] wedyn i fyny [[Afon Ddu]] i [[Llyn Athabasca| Lyn Athabasca]].
 
Yng ngaeaf 1796-7, penderfynnodd Thompson adael Cwmni Bae Hudson oherwydd eu pwyslais ar farchnata, ac ymunodd â [[Cwmni'r Gogledd-Orllewin| Chwmni'r Gogledd-Orllewin]]. Cyrhaeddodd eu pencadlys yn [[Grand Portage]], ar lan [[Llyn Superior]] ar 22 Gorffennaf 1797. Gadawodd Grand Portage ar 9 Awst 1797 ar daith i sefydlu lleoliadau manwl gorsafoedd masnachu'r cwmni,, yn dilyn Cytundeb Jay rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau. Roedd hi'n rhan o'r Cytundeb bod rhaid i orsafoedd masnachu Prydeinig yn yr Unol Daleithiau cau. Aeth o i lawr [[Afon Lawiog]] i [[Llyn Glawiog|Lyn Glawiog]], wedyn [[Llyn y Coedwigoedd]] a [[Llyn Winnipeg]]. Aeth o i fyny [[Afon Dauphin]] i [[Llyn Manitoba|Lyn Manitoba]], wedyn [[Llyn Winnipegosis]]. Treuliodd o 2 fis yn arolygu [[Afon Carw Coch]] ac [[Afon Assiniboine]].
 
Ar 28 Tachwedd 1797, dechreuodd gais i ddarganfod pentrefi'r llwyth [[Mandan]]ac wedi eu darganfod nhw ar lannau [[Afon Missouri]]. Dechreuodd daith arall ar 28 Chwefror 1798. Arolygodd weddill dyffryn Assiniboine hyd at The Forks, sydd erbyn heddiw [[Winnipeg]]. Aeth i fyny [[Afon Goch]] ac [[Afon Lyn Coch]] i [[Llyn Coch|Lyn Coch]]. Meddyliodd fod o wedi darganfod ffynhonell [[Afon Mississippi]] yn [[Llyn Turtur]], ond roedd o'n anghywir. Aeth o ymlaen i [[Llyn Superior|Lyn Superior]] a mapiodd ei lannau deheuol hyd at [[Sault Saint Marie]]. Cyrhaeddodd Grand portage eto ar 7 Mehefin 1798.
 
Dechreuodddaith arall ar 14 Gorffennaf 1798;aeth o i Lyn Winnipeg ac wedyn i fyny [[Afon Saskatchewan]]. Aeth ymlaen ar lannau Afon Churchill i [[Lac Ile-à-la-Crosse]] ac wedyn [[ Lac la Biche]], lle treuliodd y gaeaf.
Ym Mawrth 1799 fforiodd o gogledd [[Alberta]]. Cyrhaeddodd o Lac Ile-à-la-Crosse eto ym Mai, lle priododd o Charlotte Small. Aethon nhw ar daith efo'u gilydd yn aml wedyn, ac aethon nhw i [[Montreal]] ar ôl ei ymddeuliad; cawson nhw 13 o blant.
 
Ym Mai 1802, aeth o i lawr Afon Saskatchewan i [[Fort Kaministiquia (erbyn hyn [[Thunder Bay]]) ar Lyn Superior, ac wedyn yn .ôl i fyny'r Saskatchewan ac i [[Llyn Caethwas Llai|Lyn Caethwas Llai]].
 
Dechreuodd o daith – efo'i deulu a teithwyr eraill o'r cwmni,ar draws y Mynyddoedd [[Rockies]]. Aethant i fyny Afon Ogledd Saskatchewan ac ar draws Bwlch Howse. Disgynnodd Afon Blueberry a chyraeddasant [[Afon Columbia]] ar 30 Mehefin 1807]]. Oherwydd bod yr afon yn llifo i'r Gogledd Dwyrain yno, na sylweddodd o bod Afon Columbia oedd hi. Aethant i fyny'r afon i Lyn Windermere a treuliasant y gaeaf yn masnachu efo'r llwyth Kootenay. Treuliodd o'r blynyddoedd canlynol yn teithio'r ardal ac yn croesi'r Rockies, yn mynd â ffyrrau yn ôl i'r dwyrain. Ar diwedd 1811, croesodd y Rockies trwy [[Bwlch Athabasca|Fwlch Athabasca]] lle saif [[Jasper, Alberta]] heddiw. Cyrhaeddodd Afon Columbia ar 18 Ionawr 1811.
 
Roedd hi'n anodd anfon ffyrrau yr holl ffordd dros y Rockies, felly aeth Thompson ac eraill i lawr Afon Columbia ac wedi cyrraedd y [[Cefnfor Tawel]] ar 3 Gorffennaf 1811. Dau fis yn gynharach, cyrhaeddodd llong yr Aber o'r cefnfor, ac wedi sefydlu gorsaf masnachu yn [[Astoria, Oregon]] gan Gwmni Pacific Fur. Roedden nhw wedi cael cynllun i gydweithio efo Cwmni'r Gogledd Orllewin, ond na chyflunwyd y gytundeb. Prynwyd yr orsaf masnachu gan y Cwmni'r Gogledd Orllewin ym 1813 am $40,000.
Wythnos ar ôl cyrraedd Astoria, aeth o yn ôl i fyny'r afon, ac wedyn i fyny Afon Snake, ar y ffordd rhwng yr afonydd Snake a Spokane, lle adeiladodd o ganŵ, ac aeth i fyny'r Columbia hyd at Afon Canŵ ar ochr orllewinol Bwlch Athabasca. Roedd o wedi mapio Afon Columbia i gyd.
 
Ym 1812, aeth o ar draws y Rockies eto, ond erbyn roedd o wedi cyrraedd Llyn Superior, ac aeth o byth yn ôl i'r gorllewin eto. Roedd o 42 blwydd oed ac wedi trafeilio 55000 o filltiroedd ers cyrraedd Canada. Penderfynwyd gan y gwmni dylai fo orffen ei mapiau ar eu cyfer nhw ac yn cael ei dalu am wneud hyn.
Priododd ei wraig Charlotte yn Eglwys Presbyteriaidd Stryd Sant Gabriel, [[Montreal]] ar 30 Hydref 1830; doedd 'na ddim eglwysi yn y gorllewin ar gyfer seremoni ffurfiol yn gynharach.
 
Symudodd y teulu i Williamstown, Ontario ym 1815 a gweiddiodd o dros Comisiwn Rhwngwladol Cyffiniau i sefydlu ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Gogledd America Prydeinig, rhwng [[Llyn y Coedwigoedd]] a [[Quebec]].
 
Erbyn 1833 doedd ganddo ddim arian. Gofynnodd bod y llywodraeh Prydeinig yn cydnabod ei gwaith; derbynnodd dim ond £150 ar gyfer ei mapiau a gwybodaeth i gyd.
Bu farw ar 10 Chwefror 1857, a chladdwyd ym Mynwent Mount Royal, Montreal<ref>[http://www.northwestjournal.ca/V1.htm Erthygl gan J. ac A. Gottfred ar wefan 'North West Journal]</ref>.
 
Mae'r tiroedd a fapiwyd gan Thompson yn enfawr: 3.9 miliwn [[cilometr|km]] sg - hynny yw un pumed rhan o'r cyfandir cyfan. Nododd cyd-fforiwr iddo, sef Alexander Mackenzie, fod Thompson yn medru mapio mwy o dir mewn deg mis nag oedd e'n medru ei wneud mewn dwy flynedd.