Mudiad Gweriniaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7981977 (translate me)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mudiad [[Cenedlaetholdeb Cymreig|cenedlaethol Cymreig]] a ddatblygodd fel hollt o [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] oedd '''Mudiad Gweriniaethol Cymru''', hefyd yn defnyddio'r enw '''Plaid Weriniaethol Cymru'''.
 
==Hanes==
Roedd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn [[1949]] yn un stormus, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a bod hyn yn rhwystro'r achos cenedlaethol rhag ennill cefnogaeth yn ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain. Roedd rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans, ac yn galw am agwedd fwy milwriaethus. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Mudiad Gweriniaethol Cymru, gyda tua 50 o aelodau Plaid Cymru yn gadael i greu'r blaid newydd. Yn eu plith roedd [[Gwilym Prys-Davies]], [[W. Huw R. Davies]], [[Trefor Morgan]] a [[Cliff Bere]].
 
Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1950]], safodd [[Ithel Davies]] fel ymgeisydd Plaid Weriniaethol Cymru yn etholaeth Bro Ogwr. Cafodd 613 o bleidleisiau (1.3%). Cyhoeddodd y Mudiad bapur ''The Welsh Republican'' rhwng 1950 a 1957, gyda [[Harri Webb]] yn un o'r golygyddion, a chyhoeddodd Cliff Bere bamffled ''The Welsh Republican''. Roedd y mudiad wedi dirwyn i ben cyn diwedd y 1950au.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig]]
[[Categori:Gweriniaetholdeb yng Nghymru]]
[[Categori:Pleidiau dros ymwahaniad neu annibyniaeth]]
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol yng Nghymru]]