John Jones (Idris Fychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd. comin
Llinell 7:
Ganed ef yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn 1825. Roedd yn hannu o deulu [[Ellis Roberts (Eos Meirion)]] ac roedd ei fam yn gantores dda hefyd. Fel [[crydd]] y daeth i ennill ei fywoliaeth ond yn fuan daeth ei ddoniau fel telynor i'r amlwg a daeth yn adnabyddus fel 'Idris Fychan'. Symudodd i weithio yn [[Llundain]] ac wedyn i [[Manceinion|Fanceinion]] yn 1857.<ref name="Bywgraffiadur"/>
 
Yn [[Eisteddfod Rhuddlan, 1850]], enillodd wobr am ei draethawd arobryn ar 'Canu gyda'r Delyn', ac yn Eisteddfod Caerlleon 1866 dyfarnwyd y wobr iddo am draethawd ar 'Hanes a Henafiaeth Canu gyda'r Delyn'. Roedd yn fardd eisteddfodol yn ogystal ac yn un o gyfeillion agosaf Ceiriog.<ref name="Bywgraffiadur"/>
 
Bu farw ar y 3ydd o Dachwedd 1887 a'i gladdu ym mynwent Ardwick, Manceinion.<ref name="Bywgraffiadur"/>