Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "George R. R. Martin"

Ychwanegwyd 3,489 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Ehangu peth cyth; ac yna tua Lerpwl a thoriad gwawr
(→‎Dolenni allanol: Pentrefi a phentrefannau newydd)
(Ehangu peth cyth; ac yna tua Lerpwl a thoriad gwawr)
[[Delwedd:George R R Martin 2011 Shankbone.JPG|bawd|George R. R. Martin yn 2011]]
[[Nofelydd]] nofelau [[ffantasi]], awdur straeon byrion, sgriptiwr a chynhyrchydd teledu o [[Americanwr]] yw '''George Raymond Richard Martin'''<ref name="middlename">{{cite web |last=Richards |first=Linda |url=http://januarymagazine.com/profiles/grrmartin.html |title=January interview: George R.R. Martin |publisher=[[January Magazine|januarymagazine.com]] |date=Ionawr 2001 |archiveurl=http://www.webcitation.org/66ff9Skfe |archivedate=4 Ebrill 2012 |deadurl=no |accessdate=21 Ionawr 2012}}</ref> (ganwyd 20 Medi 1948). Ei gampwaith yw ''[[A Song of Ice and Fire]]'', cyfres o nofelau ffantasi epig a addaswyd gan ''Home Box Office'' (neu [[HBO]]) yn rhaglen deledu, ''[[Game of Thrones]]''. Mae Martin yn gyd-gynhyrchydd y rhaglen honno ac yn sgriptio un bennod i bob cyfres o'r rhaglen.
 
Cafodd ei enwi'n '''George Raymond Martin''' a chyfeirir ato'n aml fel '''GRRM'''.<ref>{{cite web|url=http://www.januarymagazine.com/profiles/grrmartin.html|title=Interview – George R. R. Martin – January Magazine|publisher=|accessdate=30 Hydref 2014}}</ref>
 
Yn 2005 galwodd yr awdur Lev Grossman ef "y [[J. R. R. Tolkien|Tolkien]] Americanaidd."<ref name=time_american_tolkien>{{cite news |last=Grossman |first=Lev |authorlink=Lev Grossman |url=http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,1129596,00.html |title=Books: The American Tolkien |work=Time |date=13 Tachwedd 2005 |archiveurl=https://web.archive.org/web/20081229125934/http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,1129596,00.html |archivedate=29 Rhagfyr 2008 |deadurl=yes |accessdate=2 Awst 2014}}</ref> ac ychydig yn ddiweddarach galwodd y cylchgrawn ef yn "un o gant person mwyaf dylanwadol y byd."<ref name="time100pat">[http://www.time.com/time/specials/packages/article/0,28804,2066367_2066369_2066129,00.html ''The 2011 TIME 100: George R.R. Martin]'', John Hodgman, 21 Ebrill 2011</ref><ref name="time100list">[http://www.time.com/time/specials/packages/completelist/0,29569,2066367,00.html ''The 2011 TIME 100: Full List]'' Adalweyd 5 Mehefin 2011</ref>
 
==Y dyddiau cynnar==
Dewisiodd a mabwysiadodd yr enw canol 'Richard' pan oedd yn 13 oed.<ref name="confirmation">{{cite news |url=http://tamutimes.tamu.edu/2013/03/22/author-george-r-r-martin-is-visiting-texas-am-talks-game-of-thrones-and-texas-am-libraries/ |title=Author George R.R. Martin Is Visiting Texas A&M, Talks ‘Game of Thrones' and Texas A&M Libraries |publisher=Texas A&M University |work=TAMUTimes |date=22 Mawrth 2013}}</ref> Roedd yn fab i'r hanner-[[Eidal]]wr Raymond Collins Martin a'i wraig Margaret Brady Martin, a oedd yn hanner-[[Gwyddeles]]. Roedd ganddo ddwy chwaer, Darleen a Janet. <ref>{{cite journal |last1= Martin |first1= George R. R. |date= Hydref 2004 |title= The Heart of a Small Boy |journal= Asimov's Science Fiction |url= http://www.asimovs.com/_issue_0410/theheartofasmall.shtml |accessdate=28 Mawrth 2014}}</ref> ac roedd gan y teulu berthnasau oedd yn hannu o'r [[Almaen]], [[Lloegr]] a [[Ffrainc]].
 
Mae'n debyg iddo gychwyn darllen gan nad oedd y teulu wedi teithio rhyw lawer, a darllenai'n eang am wledydd y byd. Dechreuodd sgwennu'n ifanc iawn a gwerthodd storiau i blant pan oedd yn arddegwr.
 
Derbyniod radd mewn [[newyddiaduriaeth]] o Brifysgol Northwestern, [[Illinois]] yn 1970 a gradd Meistr yn yr un pwnc a choleg yn 1971.
 
Cofrestrodd fel [[gwrthwynebydd cydwybodol]] yn ystod [[Rhyfel Vietnam]].<ref>{{cite news|title=George Stroumboulopoulos Tonight, interview with Martin|url= http://www.cbc.ca/video/#/Shows/George_Stroumboulopoulos_Tonight/1595682788/ID=2209994735 |accessdate=15 Mawrth 2012|newspaper=[[George Stroumboulopoulos Tonight]]|publisher=[[CBC.ca]]|date=14 Mawrth 2012}}</ref> gan weithio'n wirfoddol rhwng 1972–1974.
 
Mae'n chwaraewr [[gwyddbwyll]] arbennig o dda a chyfarwyddodd gemau'r Gymdeithas Wyddbwyll Gyfandirol rhwng 1973 a 1976.
 
 
== Llyfryddiaeth ddethol ==
** ''[[A Feast for Crows]]'' (2005)
** ''[[A Dance with Dragons]]'' (2011)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==