Ffidil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ApGlyndwr (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu
ApGlyndwr (sgwrs | cyfraniadau)
B manion
Llinell 1:
[[Delwedd:AngharadJenkins02CS.jpg|bawd|Angharad Jenkins yn chwarae ffidil efo Calan yng [[Gŵyl Tegeingl|Ngŵyl Tegeingl, 2012]].]]
[[Delwedd:Violin VL100.jpg|bawd|chwith|Ffidil]]
[[Offeryn cerdd]] gyda phedwar tant ydy’r '''ffidil''' neu '''feiolín''', sy'n cael ei chwaraecanu (fel arfer) gyda bwa. Mae hi'n cael ei chwarae ledled y byd mewn pob math o gerddoriaeth.
Mae tannau'r ffidil yn cael eu tiwnio at G, D, A, E (o'r gwaelod), yn dechrau ar y G o dan C canologganol. Y ffidil ydy aelod lleiaf ac uchaf o’r teulu feiol o offerynnaufeiolin, sy'n cynnwys hefyd y [[fiola]], y [[sielo]] a'r [[bas feioldwbl]].
 
Y ''feiolin'' yw’r pwysicaf o’r offerynnau llinynnol, a’r offeryn sy’n arwain y gerddorfa glasurol. Mae’r gwneuthuriad yn cynnwys corff gwag hirgul atseiniol a gwddf sy’n ymestyn at y pen mewn ffurf sgrôl. Yno mae pedwar peg tiwnio, dau bob ochr, i dynhau’r tannau sy’ wedi’u gosod mewn cynffon sy’n glwm i waelod y corff. Mae crib (bysfwrdd) o eboni yn ymestyn ar hyd y gwddf, o’r bocs pegiau hyd at ganol y corff lle mae’r siâp yn culhau. Mae tyllau siâp ''f'' wedi’u torri mewn i’r corff yn y lleoliad yma, ac mae’r union safle ac osgo’r tyllau’n bwysig at greu’r sain gorau o’r offeryn. Mae pont o bren masarn yn trosglwyddo dirgryniaddirgryniadau o’r tannau at y corff ac mae postyn sain tu mewn i’r offeryn yn cymryd sain o’r tannau uchaf at y cefn. Cynhelir sain ddyfnach mewn darn o bren wedi’i ludio at ochr mewnol y bol (neu’r plât uchaf). Gwneir y bol o bren sbriws, a defnyddir pren masarn i ffurfio’r ochrau a chefn yr offeryn. I gael y sain gorau mae gan arbenigwyr ddulliau o osod y bont a’r postyn sain yn union yn ôl mesuriadau unigryw at bob offeryn. Mae naddiad o drwch blewyn yn ddigon i wneud gwahaniaeth wrth gymhwyso’r mesuriadau bychain yng ngwneuthuriad pob rhan o’r offeryn. Y gwneuthurwr enwocaf hyd heddiw yw Antonio Stradivari, o [[Cremona]] yn yr [[Eidal]], ac nid oes gwelliannau sylweddol i’r dyluniad a berffeithiodd ers y cyfnod euraidd o’i offerynnau gorau rhwng 1700 a 1720.
 
==Gweler hefyd ==