Aberafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu gwybodaeth a graff allan o Gyfrifiad 2011 using AWB
Huwbwici (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu ychydig o hanes
Llinell 2:
 
Tref a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] yng [[Castell-nedd Port Talbot|Nghastell-nedd Port Talbot]] yw '''Aberafan''' (Saesneg ''Aberavon''), yng nghanol [[Port Talbot]] ar lan orllewinol [[Afon Afan]]. Roedd 5,157 o bobl yn byw yng nghymuned Aberafan yn 2001, 8% ohonynt yn siarad [[Cymraeg]] (Cyfrifiad 2001).
 
==Hanes==
Tyfodd Aberafan o amgylch castell pren a adeiladwyd gan [[Arglwyddi Afan]] tua 1100 O.C ar ochor gorllewinol afon Afan. Llosgwyd y castell i lawr ym 1153 ac adeiladwyd y castell o garreg gan [[Morgan ap Caradoc]]. Erbyn 1373 roedd y dre yn nwylo Arglwydd Morgannwg, [[Edward Le Despenser]]. <ref> The History of Port Talbot, S R Jones 1991</ref>
 
O ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen ddechreuodd diwydiant datblygu yn yr ardal - yn cynnwys gweithio tun a chopr. Ym 1840 agorodd y teulu Talbot o Swydd Hampshire dociau yn agos a'u enwi yn "Port Talbot". Mae'r ardal dal yn adnabyddus am weithio [[dur]]. Dros amser tyfodd Aberafan a'r pentrefi cyfagos (yn cynnwys [[Baglan]], [[Taibach]] a [[Margam]]) at ei gilydd i greu y dref cyfoes [[Port Talbot|Porth Afan]].
 
==Cyfrifiad 2011==