Charles Watkin Williams-Wynn (1822–1896): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25:
Cyn fu newidiadau i'r drefn ddemocrataidd i ehangu'r bleidlais ac i fwrw pleidlais mewn dirgelwch ystyrid etholaeth Maldwyn yn ''eiddo'' i deulu Williams-Wynne. Rhagflaenydd Charles fel Aelod Seneddol oedd [[Herbert Watkin Williams Wynn]] ei gefnder (roedd y ddau yn ŵyr i [[Sir Watkin Williams-Wynn, 4ydd barwnig]]). Rhagflaenydd Herbert oedd [[Charles Watkin Williams-Wynn (1775-1850)|Charles Watkin Williams-Wynn]] yr hynaf, tad Charles Williams-Wynn; bu hen daid Charles [[Syr Watkin Williams-Wynne, 3ydd barwnig]] yn cynrychioli'r sedd yn y 1740au.
 
Etholwyd Charles Williams-Wynn am y tro cyntaf mewn isetholiad ym 1862 a achoswyd trwy farwolaeth ei gefnder, dyma fu'r etholiad cystadleuol cyntaf yn yr etholaeth ers 1831. Llwyddodd Williams- Wynne i drechu ei wrthwynebydd Rhyddfrydol, [[Charles Hanbury-Tracy]], yn weddol gyffyrddus. Bu'r etholiad yn un nodedig gan i dorf o ryw 400-500 o bobl ceisio tarfu ar gefnogwyr Williams-Wynn yn [[Llanidloes]] er mwyn ceisio eu rhwystro rhag pleidleisio; cafodd pedwar o arweinwyr y brotest eu carcharu am 3 mis am eu rhan yn y digwyddiad.<ref> ''The Llanidloes Election Riots'' Cardiff and Merthyr Guardian 21 Mawrth 1863 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3093506/ART53] adalwyd 19 Ebrill 2015</ref>
 
Cafodd Williams-Wynne ei ailethol yn ddiwrthwynebiad mewn pob etholiad hyd 1880 pan wynebodd wrthwynebiad gan ymgeisydd Rhyddfrydol Stuart Rendel a cholli ei sedd a chanrifoedd o ddylanwad ei deulu ar yr etholaeth. Ceisiodd adennill ei sedd yn etholiad cyffredinol 1880 ond heb lwyddiant, ac arhosodd yr etholaeth yn nwylo'r Rhyddfrydwyr am y nawdeg naw flwyddyn ddilynol<ref>''Seats to be won in Wales'' Cambrian 19 Mawrth 1880 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3335249/ART49] adalwyd 19 ebrill 2015</ref>