Llanbadarn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyswllt i'r comin
B cynnwys llythyren
Llinell 26:
Pentref ar gyrion tref [[Aberystwyth]] yw '''Llanbadarn Fawr'''.
 
Mae'r [[Eglwys Padarn|eglwys]], sydd wedi ei chysegru i sant [[Padarn]], yn un nodedig. Roedd y [[clas]] yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan [[Sulien]] (c. 1010 - 1091) a'i fab [[Rhygyfarch ap Sulien]]. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd [[Gerallt Gymro]] a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn [[1188]], er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn [[1257]] yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Bu [[Dafydd ap Gwilym]] yn byw yn y pentref ac mamae yna gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth. Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y [[90au]], gyda archfarchnad [[Safeway]] a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon.
 
Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth ([[Coleg Llyfrgellwyr Cymru]] gynt) a'r Sefydliad Astudiaethau Gwledig (Coleg [[Amaethyddiaeth]] Cymru gynt). Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon [[Prifysgol Aberystwyth]] (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau.