Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 3 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
manion
[[Delwedd:Thomas Williams of Llanidan.jpeg|250px|bawd|Thomas Williams, tua 1792-951792–95. Portread gan WilliamThomas Lawrence, olew ar gynfas, yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]].]]
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] - [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]].
 
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
 
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r ''Cornish MetelMetal Company'', oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
 
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.
6,785

golygiad