Vitus Bering: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Wedi mordaith i India'r Dwyrain, ymunodd a'r llynges Rwsaidd yn [[1703]]. Priododd wraig o Rwsia, ac wedi ymweliad byr â Horsens yn [[1715]] ni ddychwelodd yno wedyn. Yn [[1725]], teithiodd ar dir i [[Okhotsk]], croesodd i Kamchatka, ac adeiladodd y llong ''Sviatoi Gavriil'' (''[[Sant Gabriel]]''). Ar y llong yma, hwyliodd Bering tua'r gogledd yn [[1728]], hyd na allai weld rhagor o dir tua'r gogledd na'r dwyrain.
 
Y flwyddyn wedyn bu'n chwilio am dir i'r dwyrain, gan ail-ddarganfod [[Ynys Ratmanov]], un o [[Ynysoedd Diomede]]. Yn [[1730]] dychwelodd i [[St Petersburg|Sant Petersburg]], ond yn ystod y daith hir trwy [[Siberia]] bu ef yn wael iawn a bu farw pump o'i blant. Dychwelodd i Okhotsk yn [[1735]], lle'r adeiladwyd dwy long: ''Sviatoi Piotr'' (''[[Sant Pedr]]'') a ''Sviatoi Pavel'' (''[[Sant Paul]]''). Yn [[1740]] sefydlodd [[Petropavlovsk-Kamchatsky|Petropavlovsk]] yn Kamchatka. Oddi yno hwyliodd i gyfeiriad [[Gogledd America]] yn [[1741]], gan gyrraedd arfordir deheuol [[Alaska]].
 
[[Image:Beringmap376.png|thumb|400px|Map o [[Siberia]] a dwyrain Rwsia o waith Vitus Bering]]