Feiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ApGlyndwr (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae’r '''feiol''' yn rhan o deulu o offerynnau llinynnol a genid â bwa ac mae enghreifftiau cynnar yn deillio yn ôl i’r bymthegfed ganrif yn Sbaen....'
 
ApGlyndwr (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:GambeUilderks.png|250px|bawd|feiol modern]]
Mae’r '''feiol''' yn rhan o deulu o offerynnau llinynnol a genid â bwa ac mae enghreifftiau cynnar yn deillio yn ôl i’r bymthegfed ganrif yn Sbaen. Er bod feiolau bas yn debyg mewn rhai agweddau i’r [[sielo]], mae’r feiolau yn wahanol mewn sawl ffordd i offerynnau yn nheulu’r [[feiolin]]. Mae gan y feiol gefn gwastad yn hytrach na chrwm, ysgwyddau gwargrwm, tyllau ''c'' yn lle rhai ''f'', a chwech neu saith tant yn hytrach na phedwar. Mae’r tiwnio yn wahanol hefyd (pedwerydd rhwng tannau a thrydydd yn y canol, yn hytrach na phumedau) a defnydd o gribellau at leoli nodau. Dalier y bwa o flaen yn hytrach na thu ôl i gledr y llaw.
 
Mae nifer o feintiau i’r feiol, ond ym Mhrydain roedd yn arferiad i gael cist o ddau offeryn trebl, dau denor a dau fas yng nghyfnod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg. Cenid pob aelod o’r teulu feiol yn null y sielo, yn ôl yr enw Eidalaidd ''viola da gamba'' (neu feiol y goes). Mae’r offerynnau uchaf yn nheulu’r feiolin wedyn yn dwyn yr enw ''viola da braccio'' ( neu feiol y fraich).