Culfor Bering: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
'''Culfor Bering''' ([[Rwseg]]: ''Берингов пролив'', [[Saesneg]]: ''Bering Strait'') yw'r culfor rhwng [[Penrhyn Dezhnev]] yn [[Rwsia]], y rhan fwyaf dwyreiniol o gyfandir [[Asia]], a [[Cape Prince of Wales]] yn [[Alaska]], rhan fwyaf gorllewinol cyfandir Gogledd America.
 
Mae'r culfor, sydd tua 92 km (58 milltir) o led a 30 - 50 m o ddyfnder, yn cysylltu [[Môr Chukchi]] (rhan o [[Cefnfor Iwerydd|Gefnfor Iwerydd]]) gyda [[Môr Bering]], sy'n rhan o'r [[Y Cefnfor Tawel|Cefnfor Tawel]]. Enwyd y culfor ar ôl y fforiwr [[Vitus Bering]], [[Denmarc|Daniad]] yng ngwasanaeth Rwsia, a groesodd y culfor yn [[1728]], er y gwyddir i [[Semyon Dezhnev]] hwylio trwy'r culfor yn [[1648]].
 
Yn ystod [[Oes yr Ia]] roedd tir yn cysylltu dwy ochr Culfor Bering, a dros y tir yma y croesodd pobl gynnar o gyfandir Asia i gyfandir America. Gwyntyllwyd y syniad o bont neu dwnel yn cysylltu dwy ochr y culfor, ond ar hyn o bryd bychan yw'r boblogaeth ar y ddwy ochr, ac nid oes ffyrdd yn cysylltu'r sefydliadau ar lannau'r culfor a gweddill y wlad ar yr ochr Rwsaidd nag ochr Alaska. Mae gwahaniaeth amser o 21 awr rhwng y ddwy ochr, gyda'r ochr Rwsaidd ddiwrnod ar y blaen i'r ochr Americanaidd.