Tansanïa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Kenya → Cenia, Tanzania → Tansanïa (2), Uganda → Wganda using AWB
ehangu
Llinell 52:
}}
 
Gwlad yn nwyrain [[Affrica]] yw '''Gweriniaeth Unedig Tansanïa''' neu '''Tansanïa'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Tansanïa].</ref> Mae'n ffinio ag [[Wganda]] a [[Cenia|Chenia]] i'r gogledd, [[Rwanda]], [[Bwrwndi]] a [[Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo]] i'r gorllewin, [[Sambia]], [[Malawi]] a [[Mosambic]] i'r de a [[Cefnfor India|Chefnfor India]] i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, [[Kilimanjaro]], yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa.
 
Mae yno boblogaeth o tua 45 miliwn o bobl o amrywiol ddiwylliannau, iaith a chrefydd. Yn swyddogol, diffinir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (''presidential constitutional republic'') ers 1996, a'i phrifddinas swyddogol yw [[Dodoma]], ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.<ref>{{cite news | url = http://www.etsav.upc.es/personals/iphs2004/pdf/148_p.pdf | author = Aloysius C. Mosha | title = The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream | accessdate = 13 March 2013 | publisher = University of Botswana }}</ref> Yn [[Dar es Salaam]], sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.<ref name="factbook"/><ref name=official_website>{{cite web | url=http://web.archive.org/web/20131125222553/http://www.tanzania.go.tz/profilef.html | title=The Tanzania National Website: Country Profile | publisher=Tanzania.go.tz | accessdate=1 Maiy 2010}}</ref><ref>{{cite web | url=http://www.tanzaniaports.com/index.php?option=com_content&view=article&id=100&Itemid=270 | title=Dar es Salaam Port | publisher=Tanzaniaports.com | accessdate=19 February 2014}}</ref>
 
Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y [[19eg ganrif]] a hynny gan yr [[Almaen]]wyr ac yna'r [[Lloegr|Prydeinwyr]] wedi'r [[Ail Ryfel Byd]]. Llywodraethwyd y tir mawr [[Tanganyika]] ar wahân i [[Ynysfor Zanzibar]], ond wedi iddynt ddod yn annibynol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.<ref name="factbook">{{cite web | author=Central Intelligence Agency | authorlink=Central Intelligence Agency | work=[[The World Factbook]] | title=Tanzania | url=https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/tz.html | year=2013 | accessdate=12 Gorffennaf 2013}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==