Datganoli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Mae '''Datganoli''' neu '''ymreolaeth''' yn broses o fod llywodraeth ganolog gwladwriaeth yn rhoi grym dros rai materion i lywodraeth ar lefel cenedl, talaith neu diriogaeth arall, a...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 4:
Bu mudiadau ymreolaethol yn [[Iwerddon]], [[yr Alban]] a [[Chymru]] yn y [[19eg ganrif]]. Roedd y mudiad yn Iwerddon yn llawer cryfach na'r lleill, gyda'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] dan [[Charles Stewart Parnell]] ac eraill yn ymdrechu am ymreolaeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig. Yn dilyn [[Gwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]], newidiodd yr hinsawdd wleidyddol yn Iwerddon, a daeth arweiniad y mudiad cenedlaethol i ddwylo [[Sinn Feinn]], oedd yn ymdrechu am annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig yn hytrach nag ymreolaeth o'i mewn. Daeth y rhan fwyaf o Iwerddon yn wlad annibynnol yn [[1922]], ond parhaodd [[Gogledd Iwerddon]] yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig. Dilewyd y senedd yma yn [[1973]] ond crewyd cynulliad newydd i Ogledd Iwerddon yn [[1998]]. Yng Nghymru, bu'r mudiad [[Cymru Fydd]] yn weithgar am gyfnod.
 
Gyda thŵf cenedlaetholdeb yn [[yr Alban]] a [[Cymru|Chymru]] yn ail hanner yr [[20fed ganrif]] yn symbyliad, cynhaliwyd pleidlais ar ddatganoli grym i'r ddwy wlad ym mis Mawrth [[1979]]. Cafwyd mwyafrif mawr yn erbyn datganoli yng Nghymru, tra yn yr Alban roedd mwyafrif bychan o'i blaid, ond dim digon i wneud datganoli yn weithredol. Yn mis Medi [[1997]] cafwyd refferendwm arall, a'r tro hwn cafwyd pleidlais o blaid datganoli yn y ddwy wlad. Sefydlwyd [[Senedd yr Alban]] a [[Cynulliad Cymru|Chynulliad Cymru]] yn [[1999]]. Yn [[Lloegr]] mae gan ddinas [[Llundain]] gynulliad datganoledig, ond mewn refferendwm ar greu cynulliad i ogledd-ddwyrain Lloegr yn [[2004]], roedd mwyafrif mawr yn erbyn, a gohiriwyd unrhyw ystyriaeth bellach o'r mater. Mae peth galw am senedd ddatganoledig i Loegr fel uned. Yn 2001 cyflwynodd [[Mebyon Kernow]] ddeiseb gyda 50,000 o enwau yn galw am ddatganoli grym i [[Cernyw|Gernyw]].
 
Mewn rhannau eraill o Ewrop, ceir trefn ddatganoledig yn [[Sbaen]], lle mae 17 o Gymunedau Ymreolaethol a dwy Ddinas Ymreolaethol, ac hefyd yn [[yr Eidal]]. Mae'r drefn mewn gwledydd megis [[yr Almaen]] a'r [[Swistir]] yn esiamplau o ffederaliaeth yn hytrach na datganoli.