Trefignath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
nodyn
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Trefignath''' yn siambr gladdu gerllaw [[Caergybi]] ar [[Ynys Môn]] sy'n dyddio o'r cyfnod [[Neolithig]], tua 3900 C.C. i 2900 C.C.. Mae'n siambr gladdu sylweddol o ran maint, a dangosodd cloddio [[Archaeoleg|archaeolegol]] yn nechrau'r nawdegau ei bod wedi ei defnyddio am gyfnod o tua mil o flynyddoedd. Ar y cychwyn roedd yn siambr weddol syml gyda chyntedd, tebyg i [[Bodowyr]]. Yn ddiweddarach newidiwyd y cynllun i fod yn siambr hirsgwar gyda dwy garreg fawr bob ochr i'r fynedfa, a chwrt cul o'i blaen. Yna ychwanegwyd siambr arall ar yr ochr ddwyreiniol gyda cherrig mawr o flaen y fynedfa.
 
Gellir cyrraedd Trefignath wrth droi i gyfeiriad [[Trearddur]] o ochr Caergybi i'r cob ar y briffordd [[A5]] ac yna troi i'r chwith wrth yr ysgol.
 
===Llyfryddiaeth===