Edwin Lutyens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 3:
Pensaer o Sais oedd Syr '''Edwin Landseer Lutyens''' ([[29 Mawrth]] [[1869]] – [[1 Ionawr]] [[1944]]). Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y [[Mudiad Celf a Chrefft]]. Roedd ganddo ddealltwriaeth gref o draddodiadau adeiladu gwerinol yn ogystal â phensaernïaeth glasurol. Ym marn llawer o feirniaid mae ei weithiau yn crynhoi'r feddylfryd Edwardaidd, Seisnig i'r dim, ac mae'r plastai cynnar a gynlluniwyd ganddo'n cyfuno rhamantiaeth â chlasuriaeth mawreddog. Yn dilyn chwalu'r byd hwn yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] cynlluniodd Lutyens rai o gofadeiladau mwyaf cofiadwy ei oes, yn enwedig y [[Y Senotaff, Llundain|Senotaff]] yn Llundain a [[Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme|Chofeb Thiepval i Golledigion y Somme]].
 
Ymhlith ei gynlluniau mwyaf uchelgeisiol roedd prifddinas newydd ar gyfer [[India]], [[Delhi Newydd]], a chadeirlan Gatholig enfawr yn [[Lerpwl]]; dim ond crypt yr adeilad hwn a adeiladwyd i'w gynlluniau. Canmolwyd Lutyens fel "pensaer gorau [Prydain] ers [[Christopher Wren|Wren]]"<ref> {{dyf gwe|iaith=en|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T052532|teitl=Lutyens, Edwin|cyfenw=Stamp|enwcyntaf=Gavin|gwaith=Oxford Art Online|cyhoeddwr=[[Gwasg Prifysgol Rhydychen]]|dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2014}}</ref> ac ef oedd y dylanwad mwyaf ar bensaernïaeth clasurol yng ngwledydd Prydain yn yr [[20fed ganrif]] cynnar, ond ystyrir hefyd ei fod wedi bod yn ddylanwad ceidwadol iawn ar adeg pan oedd pensaernïaeth fodern yn datblygu ar y cyfandir.
 
Roedd Lutyens yn Arlywydd [[Academi Frenhinol y Celfyddydau]] o 1938 hyd ei farwolaeth ym 1944.
Llinell 10:
{{Cyfeiriadau}}
 
{{AuthorityRheoli controlawdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Lutyens, Edwin}}