Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jacques Cartier"

Lleihawyd o 2 feit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎Y drydedd fordaith, 1541–2: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
(Awdurdod)
B (→‎Y drydedd fordaith, 1541–2: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB)
==Y drydedd fordaith, 1541–2==
Ar [[23 Mai]] [[1541]], aeth Cartier yn ôl i ogledd America ar ei drydedd daith, gan gyrraedd Stadacona ar [[23 Awst]]. Ei nod oedd ceisio chwilio am Saguenay a sefydlu treflan barhaol yng Nghanada er mwyn cadarnháu hawl Ffrainc i'r diriogaeth yn erbyn hawliau Sbaen. Daeth [[Jean-François de la Rocque de Roberval]] ar ei ôl ef er mwyn sefydlu'r dreflan. Methodd â theithio'n bellach na Hochelaga, ond sefydlwyd treflan [[Charlesbourg-Royal]] (ar safle tref [[Cap-Rouge]] heddiw) ar lannau'r St Lawrence. Daeth y berthynas rhwng y Ffrancod a'r Iroquoiaid yn elyniaethus. Ar ôl gaeaf caled yng Nghanada, pryd bu farw llawer o'r gwladychwyr Ffrengig mewn ymosodiadau gan yr Iroquoiaid, dychwelodd i Ffrainc, gan adael Roberval yno i ddatblygu'r dreflan. Goroesodd Charlesbourg-Royal am flwyddyn arall tan i Roberval gefnu arni flwyddyn yn ddiweddarach. Doedd dim ceisiadau eraill i sefydlu treflannau Ewropeaidd parhaol yng ngogledd America am fwy na hanner can mlynedd. Ni ddaeth Cartier yn ôl i Ganada drachefn, ond bu'n treulio gweddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Maloù.
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Cartier, Jacques}}
[[Categori:Llydawyr]]
[[Categori:Mordeithiau]]
 
{{Authority control}}
417,732

golygiad