Penda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Penda''' (bu farw [[15 Tachwedd]], [[655]] yn frenin teyrnas [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] [[Mercia]] o [[626]] hyd ei farwolaeth. Yn fab i [[Pybba]], brenin Mercia, roedd yn un o frenhinoedd paganaidd olaf yr Eingl-Sacsoniaid, ac yn nodedig am gyngheirio gyda nifer o frenhinoedd Cymreig i wrthwynebu [[Northumbria]].
 
Ffurfiodd Penda gynhrair gyda brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Cadwallon ap Cadfan]], i ymosod ar Northumbria yn 633, a lladdwyd [[Edwin, brenin Northumbria]] ym [[Brwydr Hatfield Chase|Mrwydr Hatfield Chase]] gan roi meddiant ar Northumbria i Cadwallon a Penda. Mae'n debyg mai Cadwallon oedd arweinydd y cynghrair yma, ond pan laddwyd ef y flwyddyn wedyn, parhaodd Penda i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, gan ladd [[Oswald, brenin Northumbria]] ym [[Brwydr Maserfield|Mrwydr Maserfield]] naw mlynedd yn ddiweddarach. Sefydlodd ei hun fel y mwyaf grymus o'r brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd; gorchfygodd [[East Anglia]] a gyrroedd frenin [[Wessex]] i alltudiaeth. Yn 655 roedd yn ymgyrchu yn erbyn [[Brynaich]] mewn cynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, [[Cadafael ap Cynfeddw]]. Gyda'r gelyn gerllaw, gadawoddymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda ym [[Brwydr Winwaed|Mrwydr Winwaed]] a'i ladd.
 
Dilynwyd ef fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab [[Peada]], tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.