Charles Lindbergh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Charles Lindbergh Awyrennwr, awdur, dyfeisiydd, milwr, a fforiwr o Americanwr oedd '''Charles Augustus Lindber...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 07:30, 29 Ebrill 2015
Awyrennwr, awdur, dyfeisiydd, milwr, a fforiwr o Americanwr oedd Charles Augustus Lindbergh (4 Chwefror 1902 – 26 Awst 1974). Ganwyd ef yn Detroit, Michigan, yn fab i ymfudwr o Sweden. Daeth yn fyd-enwog am hedfan yn ddi-dor o Efrog Newydd i Baris ar yr 20fed a'r 21ain o Fai, 1927, yn ei awyren Spirit of St. Louis; ef oedd y cyntaf i gyflawni'r gamp hon.
Ym 1932 herwgipiwyd a llofruddiwyd ei fab, Charles, Jr.; gelwid hyn yn "the Crime of the Century" gan y wasg Americanaidd. Oherwydd ystranciau'r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad hwn, ffodd Lindbergh a'i deulu i Ewrop am gyfnod; dychwelasant i'r Unol Daleithiau ym 1939. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, roedd Lindbergh yn wrthwynebus i'r syniad y dylai'r Unol Daleithiau chwarae rhan yn y rhyfel; roedd hefyd yn edmygu rhai o syniadau hiliol y Natsïaid yn yr Almaen. Bu faw yn Hawaii yn 72 oed.