Yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diweddaru enw'r Brif Weinidog
Brythoneg
Llinell 50:
|}
 
Gwlad yng ngogledd orllewin [[Ewrop]] yw'r '''Alban''' (hefyd '''Sgotland''') ([[Gaeleg yr Alban|Gaeleg]]: ''Alba'', [[Sgoteg]] a [[Saesneg]]: ''Scotland''). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r [[Brythoneg|Frythoneg]] Orllewinol ac yna'r Gymraeg yn cael ei siarad o lannau'r [[Fife]] i [[Mynwy|Fynwy]].<ref>Gwyddoniadur Cymru t. 31; Gwasg y Brifysgol; 2008</ref> Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd [[Prydain]], enwog am ei [[wisgi]]. Ar 18 Medi cynhaliwyd [[Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014]] a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfradol yn ei chenedlaetholdeb.
 
[[Sant Andreas]], un o [[apostol]]ion [[Iesu Grist]], yw nawddsant yr Alban - y [[30 Tachwedd|30ain o Dachwedd]] yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y [[18fed ganrif]]. Ar y [[26 Mawrth|26ain o Fawrth]] 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd [[senedd yr Alban]] yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.