Yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 58:
== Daearyddiaeth ==
{{prif|Daearyddiaeth yr Alban}}
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef {{convert|78772|km2|sqmi|0|abbr=on|0}},<ref name=Whitaker>''Whitaker's Almanack'' (1991) ''Llundain: J. Whitaker and Sons.''</ref>. Mae felly tua'r un maint â'r [[Gweriniaeth Tsiec|Weriniaeth Tsiec]]. Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n {{convert|96|km|mi|0|0}} - rhwng aber yr [[Afon Tweed]] yn y dwyrain hyd at [[Merin Rheged]]<ref name=GyA-535>''Geiriadur yr Academi'', t. 535.</ref> Saif Iwerddon {{convert|30| km|mi|0|0}} i'r gorllewin o benrhyn [[Kintyre]];<ref name="Atlas">{{cite book |author=Munro, D |title=Scotland Atlas and Gazetteer |pages=1–2 |publisher=Harper Collins |year=1999}}</ref> Mae Norwy 305 {{convert|305|km|mi|0|0}} i ffwrdd i'r gogledd ddwyrain, ac mae [[Ynysoedd Faroe]], {{convert|270| km|mi|0|0}} i'r gogledd.
 
Mae'r Alban yn nodedig am ei [[Rhestr o gopaon dros 610m (2,000 troedfedd) yn yr Alban|mynyddoedd]]. Yn ystod y cyfnod [[Pleistosen]], roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y [[rhewlif]]au i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd [[daeareg|ddaearegol]] yw'r ffalt a red o [[Arran]] hyd at [[Stonehaven]] ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod [[Cambriaidd]] a [[Cyn-Gambriaidd|Chyn-Gambriaidd]].