Pleidleisio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Election MG 3455.JPG|bawd|dde|250px|Mae pleidleisio yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd.]]
 
Mae '''pleidleisio''' neu '''fwrw pleidlais''' yn fodd i grŵp neu [[etholaeth]] wneud penderfyniad neu fynegi barn — yn aml yn dilyn trafodaethau, dadleuon neu [[ymgyrch etholiad]]etholiadol.
 
Mae'r rhan fwyaf o [[democratiaeth|ddemocratiaethau]] yn penderfynu barn y bobl drwy bleidleisio cyffredin. Dyma'r dull symlaf o ddewis person neu bersonau: er enghraifft, mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer dewis cynrychiolwyr yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]], defnyddir y system yma, sef: [[System etholiadol 'y cyntaf i'r felin']] (neu: 'y cyntaf heibio'r postyn'), lle dewisir un person ar gyfer un darn o dir (yr etholaeth).
 
==Y broses bleidleisio==
Mae'r rhan fwyaf o [[democratiaeth|ddemocratiaethau]] yn penderfynu ewyllys y bobl gan ddefnyddio trefn bleidleisio cyffredin.
[[Delwedd:Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd.jpeg|bawd|chwith|120px|Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd; Etholiad Cyffredinol Mai 2015]]
 
Rhoddir un croes ar [[papur pleidleisio|bapur pleidleisio]] i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir y lleiafrif. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP mewn lleiafrif ym mhob etholaeth. Yn genedlaethol roedd ganddynt lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir [[system bleidleisio gynrychioladol]]. Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod.
 
Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw [[pleidlais amgen]] (''Instant-runoff voting''), yw nodi dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio.
 
==Gweler hefyd==
*[[Etholiadau yng Nghymru]]
 
==Cyfeiriadau==