Ffranciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
manion: teipio gan fwyaf
Llinell 1:
Roedd y '''Ffranciaid''' ([[Lladin]]: ''Franci'' neu ''gens Francorum'') yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig[[Almaen]]ig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y [[Saliaid]], [[Sicambri]], [[Chamavi]], [[Tencteri]], [[Chattuarii]], [[Bructeri]], [[Usipetes]], [[Ampsivarii]] a’r [[Chatti]]. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol [[Afon Rhein]], a chawsant eu defnyddio fel ''[[foederati]]'' gan yr ymerawdwr Rhufeinig [[Julian]] ([[358]]). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw ''Francia'') mewn ardal sy’n cynnwys [[Ffrainc]] a rhan orllewinol yr [[Almaen]]. Mae '[[Ffrainc]]' yn cymeryd ei henw oddiwrthyntoddi hwywrthynt. Daethant yn Gristionogion tua diwedd y [[5ed ganrif]].
 
Arferiad y Ffranciaid, fel y Tywysogion a'r Brenhinoedd Cymreig, ar farwolaeth brenin oedd rhannu’r deyrnas rhwng ei feibion, felly rhannwyd Francia nifer o weithiau.
 
[[Image:Charlemagne.jpg|thumbnail|left|170px|Cerflun o [[Siarlymaen]] yn [[Frankfurt]], [[Yr Almaen]].]]
 
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am y Ffranciaid yn dod oddi wrth [[Gregori o Tours]], a ysgrifennodd ei ''Historia Francorum'' (''Hanes y Ffranciaid'') am y cyfnod hyd 594. Cofnodir I’ri’r Ffranciaid ymosod ar yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn [[250]] a chyrraedd cyn belled a [[Tarragona]] yn [[Sbaen]]. Tua 358 rhoddodd yr ymeradwr Julian y rhan fwyaf o dalaith [[Gallia Belgica]] iddynt. Yn raddol daethant yn feistri ar y rhan fwyaf o ran ogleddol [[Gâl]].
 
Y frenhinllin gyntaf i lywodraethu’r Ffranciaid oedd y [[Merofingiaid]]. Dywedir fod y brenhinoedd Merofingaidd yn hannu o lwyth y [[Sicambri]]. Fodd bynnag nid y brenin oedd a’r grym mewn gwirionedd ond [[Maer y Llys]]. Y mwyaf enwog o’r rhain oedd [[Siarl Martel]], a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Mwslimiaid ym [[Brwydr Tours|Mrwydr Tours]].
 
Yn 751 diorseddwyd yr olaf o’r brenhinoedd Merofingaidd, a daeth mab Siarl Martel, [[Pepin Fychan]], yn frenin fel y cyntaf o linach y [[Carolingiaid]]. Adeiladodd mab Pepin, [[Siarlymaen]], ymerodraeth oedd yn ymestyn dros ran helaeth o Ewrop. O 772 ymlaen, gorchfygodd y [[Sacsoniaid]], ymgorfforodd eu tiroedd yn ei ymerodraeth a gorfododd hwynt i ddod yn Gristionogion. Concrodd y [[Lombardiaid]] yn 773-774, ac ychwanegodd ogledd yr [[Eidal]] at ei feddiannau. Ar ddydd Nadolig [[800]] coronwyd Siarlymaen yn “Ymerawdwr y Rhufeiniaid” gan y [[Pab Leo III]].
 
Pan fu farw Siarlymaen yn [[814]] yn [[Aachen]], dilynwyd ef gan ei fab [[Louis Dduwiol]], yr unig un o'i feibion oedd wedi goroesi ei dad. Ar farwolaeth Louis yn 840, bu ymladd rhwnngrhwng ei feibion, ac yn [[843]] rhannwyd y deyrnas rhyngddynt yn ôl [[Cytundeb Verdun]].
 
[[Delwedd:843-870 Europe.jpg|bawd|250px|Rhaniad yr ymerodraeth rhwng tri mab Louis Dduwiol]]