Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Celtiaid modern: newid llun Iolo Morganwg
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 4:
[[Delwedd:Ancient Britons - Description of Great Britain and Ireland (c.1574), f.8v - BL Add MS 28330.jpg|bawd|250px|Llun a gyhoeddwyd yn [[yr Iseldiroedd]] tua 1574 o'r Brythoniaid cynnar.]]
 
Defnyddir y term '''y Celtiaid''' yn cachu bricks gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin [[Ewrop]], gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag [[Asia Leiaf]]. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn [[ieithoedd Celtaidd]] a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] ([[Cymraeg]], [[Llydaweg]], a [[Cernyweg|Chernyweg]]) a rhwng y tair iaith [[Goideleg|Oideleg]] ([[Gaeleg]], [[Gwyddeleg]], a [[Manaweg]]).
 
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia ([[Marseille]] heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed [[Herodotus]] eu bod yn byw o gwmpas tarddle [[Afon Donaw]]; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng [[Gâl|Ngâl]] gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed [[Iŵl Cesar]] fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
Llinell 10:
Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y [[18fed ganrif]] pan ddangosodd [[Edward Lhuyd]] fod ieithoedd megis [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]] yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys [[y diwylliant Hallstatt]] a [[diwylliant La Tène]]. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys [[Celt-Iberiaid]] ([[Portiwgal]] a [[Sbaen]] heddiw, gan gynnwys [[Galicia]]), trigolion [[Prydain]] ac [[Iwerddon]], y Galiaid yng [[Gâl|Ngâl]] ([[Ffrainc]], gogledd [[yr Eidal]], y [[Swistir]] a'r cylch) a'r [[Galatiaid]] ([[Asia Leiaf]]: [[Twrci]] heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.
 
Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] - [[yr Alban]], [[Cernyw]], [[Cymru]], [[Iwerddon]], [[Ynys Manaw]], a [[Llydaw]]. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig [[Galicia]] ac [[Asturias]] yn [[Sbaen]].
 
==Yr enw==