Simon de Montfort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Roedd yn filwr caled a diwyro ac yn weinyddwr medrus. Daeth i wrthdaro â'r brenin oherwydd i'r brenin fethu ymateb i'r anfodlonrwydd cynyddol yn y wlad oherwydd nifer o bethau gan gynnwys newyn. Fe enillodd frwydr bwysig yn erbyn y brenin yn [[1264]] ond wedyn fe wnaeth [[Edward I, Brenin Lloegr]] ei orchfygu a'i ladd ym [[Brwydr Evesham|Mrwydr]] [[Evesham]], yn [[1265]]. Yn gynharach yn y flwyddyn honno arwyddodd [[Cytundeb Pipton|Gytundeb Pipton]] i selio'r cynghrair rhyngddo â [[Llywelyn ap Gruffudd]].
 
Daeth [[Elinor de Montfort]], merch Simon ac Elin, yn wraig i [[Llywelyn ein Llyw Olaf]]. Fe'i priodwyd yn eglwys gadeiriol [[Caerwrangon]] yn [[1278]]. Bu Elin farw yn 1281 gan adael un ferch sef [[Y Dywysoges Gwenllian|Gwenllian]], nad oedd ond baban. Ar ôl i'w thad gael ei ladd rhoddodd ei chefnder [[Edward I o Loegr|Edward I, brenin Lloegr]], Gwenllian yn Lleiandy Sempringham, Swydd Lincoln. Bu farw yn 1337 yn 56 blwydd oed.
 
==Cyfeiriadau==