Anterliwt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Ar y gororau y datblygodd yr anterliwt, ac mae'n amlwg fod dylanwad Seisnig arni, ond tyfodd i fod yn ffurf lenyddol gwbl Gymreig a Chymraeg. Gellid ei disgrifio fel math o ymddiddan ar gân neu ddrama foesol yn hytrach na drama reolaidd gyda phlot a symudiad yn ôl rheolau [[Aristotlys]]. Mae ganddi berthynas agos â'r [[ffars]] ganoloesol yn ogystal, gydag elfen o [[maswedd|faswedd]] diniwed a rhialtwch. Teipiau haniaethol fel Y Cybydd, Cariad, Rhagrith ac ati, neu gymeriadau stoc o fywyd bob dydd, fel yr Hwsmon neu'r Gŵr Bonheddig, yw'r cymeriadau. Arferid chwarae anterliwtiau ple bynnag y ceid llwyfan addas a digon o bobl i wrando (a thalu), er enghraifft mewn [[ffair|ffeiriau]], neithiorau cefn gwlad, [[tafarn]]au, buarth fferm. Defnyddid gwagenni i'r llwyfan a byddai'r actorion yn gwisgo yn yr ysgubor neu stafell yng nghefn y dafarn. Roedd [[cerddoriaeth|miwsig]] a [[dawns]] yn rhan hanfodol o'r difyrrwch yn ogystal, a byddai yno [[crwth|grwth]] a chrythor ac efallai pibydd hefyd. Byddai rhywrai ar ran y cwmni yn casglu arian ar ôl y perfformiad ac fel rheol gwerthid copïau o'r anterliwt yn ogystal.
 
Mae'r anterliwtwyr mawr yn cynnwys [[Twm o'r Nant]] (8 anterliwt), y pwysicaf o lawer, [[Jonathan Huws]] o [[Llangollen|Langollen]], [[Elis Roberts|Elis]] Roberts]] [[Elis y Cowper]], [[Dafydd Jones]] o [[Trefriw|Drefriw]], [[Huw Jones]] o [[Llangwm|Langwm]], [[Siôn Cadwaladr]] o'r [[Y Bala|Bala]] a [[William Roberts]], clochydd [[Nanmor]] ac eraill. [[Bardd gwlad|Beirdd gwlad]] oedd nifer o'r rhain, neu fân grefftwyr.
 
Bu farw'r anterliwt pan drodd Cymru ei chefn ar yr hen arferion poblogaidd dan ddylanwad yr enwadau [[Anghydffurfiaeth|anghydffurfiol]] ar ddechrau'r [[19eg ganrif]].