Rowland Meyrick: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
dolen
Llinell 4:
Ganed Meyrick yn ail fab Meurig (Meyric) ap Llywelyn o blas [[Bodorgan]] a Margaret ferch Rowland ap Hywel, rheithor [[Aberffraw]], yn 1505. Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] pryd daeth i arddel y ffydd Brotestannaidd newydd. Yn nheyrnasiad [[Harri VIII o Loegr]], cafodd reithoriaeth Stoke by Neyland yn [[Norfolk]], ond symudodd yn ôl i Gymru yn fuan wedyn lle cafodd swydd yn rheithoriaeth [[Llanddewi Brefi]]. Treuliodd gyfnod fel canghellor [[Tyddewi]] a [[Wells]], [[Gwlad yr Haf]]. Rhoddodd yr ail swydd heibio ac yn 1550 cofnodir ei fod yn ganghellor [[Esgobaeth Tyddewi]], yn ganon Llanddewi Brefi ac yn rheithor ei blwyf enedigol, [[Llangadwaladr]], Môn.<ref name="Robert Williams 1852">Robert Williams, ''Enwogion Cymru'' (Llanymddyfri, 1852).</ref>
 
Yn 1554 priododd Catherine ferch Owen Barret, un o uchelwyr [[Sir Benfro]]. Bu rhaid iddo ymddiswyddo oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn. Pan ddaeth [[Elisabeth I o Loegr]] i'r orsedd fe'i apwyntiwyd yn un o'r comisynwyr i arolygu eglwysi cadeiriol ac esbobaethau Cymru a'r Mers, sef Tyddewi, [[Eglwys Gadeiriol Llandaf|Llandaf]], [[Esgobaeth Llanelwy|Llanelwy]], [[Eglwys Gadeiriol Henffordd|Henffordd]] a [[Eglwys Gadeiriol Caerloyw|Chaerloyw]].<ref name="Robert Williams 1852"/>
 
Cafodd ei benodi yn [[Esgob Bangor]] gan Elisabeth I a'i urddo yn y swydd ar yr 21ain o Ragfyr 1559, yn 54 oed. Fe'i apwyntiwyd i Gyngor y Mers hefyd. Bu farw ar y 25ain o Fedi 1565. Fe'i claddwyd yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] gan adael ar ôl ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.<ref name="Robert Williams 1852"/>