Lusitania (llong): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cywiro
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Cywiro
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
[[Delwedd:RMS Luisitania.jpg|250px|bawd|RMS Lusitania]]
Llong deithio gefnforol yn perthyn i Linellgwmni'r [[Cunard Line]] oedd yr '''RMS Lusitania'''. Am gyfnod hi oedd y llong fwyaf yn y byd a'r fwyaf moethus yn ogystal.
 
Lawnsiwyd y Lusitania ym [[1906]]. ei hadeiladu ym Mhrydain gan gwmni [[John Brown & Co., GlasgowClydebank]]. Roedd ganddi hyd o 761 troedfedd a lled trawst o 88 troedfedd. Roedd hi'n pwyso 31,550 tunnell ac yn cael ei gyrru gan bedwar siafft gyriant uniongyrchol o 68,000 hp a'i galluogai i gyrraedd cyflymder o 24 ''knot''. Roedd ganddi le i 568 teithiwr dosbarth cyntaf, 464 yn yr ail ddosbarth a 1138 yn y trydydd dosbarth.
 
Yn ystod mis Hydref [[1907]], roedd y Lusitania'n dal y [[Ruban Glas]] am deithiau dros yr [[Iwerydd]] yn y ddau gyfeiriad fel ei gilydd. Llwyddodd i gyrraedd cyflymder o 25.63 ''knot'' ar gyfartaledd ar y daith i gyfeiriad y gorllewin dros bellter o 5232 km (2890 milltir morwrol).
 
Ond fe'i cofir yn bennaf heddiw am ei diwedd trasig. Ar y [[7 Mai]] [[1915]], cafodd ei suddo yn ddirybudd gan dorpedo a daniwyd gan y llong danfor ''U-20'' nid nepell [[Kinsale]] ar arfordir deheuol [[Iwerddon]]. Collwyd 1198 o fywydau. Cludwyd y goroeswyr, a dioddefwyr, yn y dre [[Cobh]] a chladdodd fwy na 100 o'r dioddefwyr yn Fynwent yr Hen Eglwys. Mae cofadail i'r Lusitania ym ''Maes Casement'' yn y dre.
 
Un peth sy'n ddirgelwch hyd heddiw ydy methiant y capten i gymryd cwrs igam-ogam er mwyn ceisio osgoi'r torpedo. Roedd tua 228 o'r teithwyr a gollwyd yn ddinesyddion Americanaidd ac mae'n debyg fod y golled honno wedi chwarae rhan nid dibwys ym mhenderfyniad [[yr Unol Daleithiau]] i ymladd wrth ymyl y Cynghreiriaid yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]].