Llyn Cerrig Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ailwampio |
|||
Llinell 1:
[[Delwedd:LlynCerrigBach.jpg|bawd|220px|Llyn Cerrig Bach]]
[[Delwedd:TorchLlyn.jpg|bawd|de|220px|Torch aur o'r llyn]]
Mae '''Llyn Cerrig Bach''' yn [[llyn]] bychan yng ngogledd-orllewin [[Ynys Môn]], gerllaw maes awyr [[RAF y Fali]] ac heb fod ymhell o bentref [[Caergeiliog]]. Mae'n rhan o gymuned [[Llanfair-yn-Neubwll]]. Mae'n adnabyddus oherwydd i nifer fawr o eitemau o [[Oes yr Haearn]] gael eu darganfod yno yn [[1942]]; i bob golwg wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Ystyrir y rhain ymysg y casgliadau pwysicaf o gelfi [[Diwylliant La Tène|La Tène]] yn [[Ynysoedd Prydain]].
==Archaeoleg==
Gwnaed y darganfyddiad pan oedd y tir yn gael ei glirio i adeiladu maes awyr i'r [[
Pan sylweddolwyd oed y gadwyn, chwiliwyd am gelfi eraill, a chafwyd hyd i nifer fawr ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn waith [[haearn]] ond roedd rhai celfi [[efydd]] hefyd. Cafwyd hyd i gyfanswm o 181 o gelfi. Maent yn cynnwys [[cleddyf]]au, pennau [[gwaywffon]], [[tarian]]nau, darnau o gerbydau a harnes ceffylau, cadwyn arall ar gyfer caethion a gwahanol gelfi. Yr oedd rhai barau haearn, oedd efallai yn cael eu defnyddio fel arian.
Llinell 9 ⟶ 10:
Roedd llawer o'r eitemau hyn wedi eu torri'n fwriadol, a chredir eu bod wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Gwaith lleol oedd rhai o'r celfi, roedd rhai wedi eu gwneud yn [[Iwerddon]], ond roedd llawer ohonynt wedi eu gwneud yn ne [[Lloegr]]. Efallai fod Llyn Cerrig Bach yn safle mor sanctaidd ac enwog fel bod llwythau pellenig yn gyrru offrymau. Ar y llaw arall, efallai fod y bobl leol wedi eu cael y celfi hyn trwy fasnach neu wedi eu cipio fel ysbail rhyfel. Mae'r eitemau yn dyddio o'r cyfnod rhwng yn ail ganrif cyn Crist hyd o gwmpas dyfodiad y [[Ymerodraeth Rhufain|Rhufeiniaid]].
Pan ymosododd byddin Rufeinig dan [[Gaius Suetonius Paulinus]] ar Ynys Môn yn O.C. [[60]] neu [[61]]
==Llyfryddiaeth==
* [[Cyril Fox]] (1945). '' A find of the early Iron Age from Llyn Cerrig Bach, Anglesey: interim report'' (Amgueddfa Genedlaethol Cymru).
* Frances Lynch (1970). ''Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest'' (Cymdeithas Hynafiaethwy Môn).
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{comin|Categori:Llyn Cerrig Bach|Llyn Cerrig Bach}}
Llinell 20 ⟶ 24:
[[Categori:Llanfair-yn-Neubwll]]
[[Categori:Llynnoedd Môn|Cerrig Bach]]
[[Categori:Llynnoedd gyda chysylltiad Celtaidd|Cerrig Bach]]
[[Categori:Oes yr Haearn yng Nghymru]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Ynys Môn]]
|