Ynys Bŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 9 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q490810 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Ynys]] fechan yn y môr ar ymyl [[Bae Caerfyrddin]] i'r de o [[Dinbych y Pysgod|Ddinbych y Pysgod]] yn [[Sir Benfro]] yw '''Ynys Bŷr''' ([[Saesneg]]: ''Caldey Island'' o'r [[Hen Norseg]] ''Keld-Eye'' 'Ynys Oer'). Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar [[Pŷr]] (digwydd ei enw yn ail ran enw tref [[Maenorbŷr]], ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r [[cefnfor Iwerydd|Iwerydd]].
 
Mae'r ynys wedi bod yn lle dymunol i fyw ers canrifoedd. Mae [[archaeoleg]]wyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn [[Hen Oes y Cerrig yng Nghymru|Hen Oes y Cerrig]] yn [[Ogof Nana]] ar yr ynys.
 
Mae'n debyg ei bod fwyaf enwog am ei [[mynachlog]]. Adeiladwyd y gyntaf gan [[Sant]] [[Dyfrig]] yn y [[chweched ganrif]]. [[Clas]] Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant [[Cathen]], sefydlydd [[Llangathen]], yno. Yn amser y [[Normaniaid]] adeiladwyd [[Priordy Ynys Bŷr|priordy]] ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Yr oedd y [[Benedictiaid]] yno o [[1136]] tan i [[Harri VIII o Loegr]] ddiddymu'r mynachlogydd yn [[1536]]. Sefydlodd y [[Sistersiaid]] Diwygiedig fynachlog ar yr ynys yn [[1906]] ac maent yno hyd heddiw.