Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Twrist (sgwrs | cyfraniadau)
treigladau ddrwg!
Llinell 25:
Cynyddu’n gyflym wnaeth cyfanswm y myfyrwyr yn y Brifysgol yn y blynyddoedd ar ôl [[1945]]. O boblogaeth o 2,309, cododd y niferoedd i 6,159 erbyn 1960. Oherwydd rhagolygon y byddai cyflymder yr ehangu yn y dyfodol yn gynt byth, cafwyd galwadau croch, o blith y staff academaidd yn bennaf, y dylai’r Brifysgol droi oddi wrth ffederaliaeth. Sefydlwyd Comisiwn gan y Brifysgol i ymchwilio ac i gyflwyno adroddiad ar y mater, ond cyflwynwyd dau adroddiad i’r Llys ym [[1964]], y naill yn gwrthdaro â’r llall: dadleuai un o blaid creu pedair prifysgol unedol yn lle’r brifysgol ffederal; yr oedd yr ail o blaid cadw’r brifysgol ffederal, gydag addasiadau yn ei threfniadaeth. Casgliadau’r ail adroddiad a dderbyniwyd gan Lys y Brifysgol, gan gadarnhau parhad Prifysgol Cymru yn un Brifysgol ffederal, genedlaethol.
 
Siarter Atodol [[1967]] oedd canlyniad Comisiwn y Brifysgol. Yn hon gwnaed rhai newidiadau pwysig, gan gynnwys cynyddu maint y Llys a’r Cyngor; ychwanegwyd hefyd at bwerau’r Bwrdd Academaidd. Oddi ar hynny, mae niferoedd y myfyrwyr wedi parhau i godi, fel pob prifysgol arall ym Mhrydain, gan godi o ychydig dros 6,000 ym 1960 i 21,000 ym 1990. Croesawyd dau goleg arall i’r Brifysgol yn aelodau cyfansoddol hefyd: Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru ([[UWIST]]) ym 1967 [unodd UWIST wedyn â Chaerdydd ym 1988], a [[CholegColeg Dewi Sant|ColegCholeg Dewi Sant]], [[Llanbedr Pont Steffan]], ym [[1971]]. Yr oedd y penderfyniad i dderbyn [[Coleg Dewi Sant]] yn arbennig o ddiddorol, oherwydd, gan ei fod wedi ei sefydlu ym [[1826]], ef oedd y sefydliad hynaf yng Nghymru a oedd yn dyfarnu graddau, ond yr oedd y cwestiwn a ddylai ddod yn rhan o Brifysgol Cymru ai peidio wedi creu dadlau chwyrn fwy nag unwaith yn y gorffennol. Pan ddaeth yn un o sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Cymru, rhoes y Coleg ei bwerau i ddyfarnu graddau heibio, er mwyn i’w fyfyrwyr gael derbyn graddau Prifysgol Cymru.
 
== Argyfwng yng Nghaerdydd ==
Llinell 41:
== Y Dyfodol ==
 
Er hynny, pwysicach at y tymor hir oedd y pwyslais newydd ar bartneriaeth ffederal gryf rhwng y Sefydliadau Cyfansoddol a’r Colegau sy’n aelodau o’r Brifysgol. Rhoddwyd hygrededd pellach i’r cysyniad o bartneriaeth drwy fabwysiadu teitlau sefydliadol newydd a derbyn dau aelod sefydliad newydd – [[Athrofa Prifysgol Cymru]], [[Caerdydd]] a Choleg Prifysgol Cymru, [[Casnewydd]] – ym [[1996]].  Ymgorfforwyd diffiniad cliriach o amcanion ffederaliaeth a chydnabyddiaeth gan y ddwy ochr i briod bwerau a chyfrifoldebau’r Brifysgol a’i rhwydwaith o aelod-sefydliadau mewn Fframwaith Academaidd newydd ym 1997.  Yr oedd cytundeb yr holl bartneriaid ffederal i’r Fframwaith yn angenrheidiol ac yn amserol am fod y Fframwaith yn cyflwyno ymagwedd ddatganolaidd at faterion llywodraethu a rheoli academaidd, gan atseinio, drwy hynny, nodau [[Adroddiad Dearing ar Addysg Uwch]] a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno [[Cynulliad Cenedlaethol]] ar gyfer Cymru.
 
Er gwaethaf y ffaith fod y newidiadau hyn wedi dod â gwell sefydlogrwydd, yr oedd y Brifysgol, a’r sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol, yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Y Cynulliad Cenedlaethol ei hun a osododd un o’r cyfryw heriau.  Yn [[2001]], cynhaliodd Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol-Oes y Cynulliad adolygiad o addysg uwch yng Nghymru.  Yr oedd rhai sylwebyddion o’r farn bod darganfyddiadau’r adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis [[Ionawr]] [[2002]], yn herio dilysrwydd rôl y Brifysgol a hyd yn oed yn rhagargoeli ei .  Drwy gyd-ddigwyddiad, yr oedd y Brifysgol wedi comisiynu’r cyfreithiwr academaidd o fri, [[Syr David Williams]], [[cyn-Is-Ganghellor]] Caer-grawnt, i ymgymryd ag adolygiad o’i haelodaeth a’i strwythurau.  Yr oedd adroddiad Williams yn cynnig y dylid mewn gwirionedd helaethu Prifysgol Cymru yn hytrach na’i rhannu, drwy dderbyn yn aelodau y pum sefydliad addysg uwch Cymreig nad oeddynt ar y pryd yn aelodau.
 
Byddai Prifysgol Cymru a ymhelaethid felly yn cynnwys holl sefydliadau Cymru o dan adain ei gradd, gan wireddu, drwy hynny, y cysyniad o “Un Genedl, Un Brifysgol”.  Cymeradwywyd y cynigion gan yr wyth aelod-sefydliad a chan Gyngor y Brifysgol ym mis Gorffennaf 2002 ac, wedi hynny, gwahoddwyd y pum sefydliad nad ydynt yn aelodau i ystyried ymuno â’r Brifysgol.  Daeth ymatebion cadarnhaol i law oddi wrth pob un ohonynt ar wahân i Brifysgol Morgannwg, a chyflwynwyd y newidiadau angenrheidiol i Siarter a Statudau’r Brifysgol er mwyn caniatáu i [[Athrofa AU]] [[Abertawe]], [[Athrofa AU Gogledd Ddwyrain Cymru]], [[Coleg y Drindod]], [[Caerfyrddin]] a [[Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru|Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru]] ddyfod yn aelodau llawn i’r Cyfrin Gyngor am gymeradwyaeth yn ystod 2003/04. Disgwylir ymateb gan y Cyfrin Gyngor yn awr.
 
Ar yr un pryd ag yr oedd y datblygiadau cadarnhaol hyn yn digwydd, cafodd dau o aelodau sefydledig y Brifysgol eu hunain yn y sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer gwrthgilio o aelodaeth. Yn 2003, penderfynodd Caerdydd a’r [[Coleg Meddygaeth]], oedd wedi bod yn cydweithio’n agos ers rhai blynyddoedd, y byddent yn uno ar 1 Awst 2004 dan y teitl ffurfiol “Prifysgol Caerdydd” (teitl y bu Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ei ddefnyddio fel “enw cyhoeddus” ers rhai blynyddoedd). Gan nad ystyrir ei fod yn bosibl, o dan y fframwaith cyfreithiol a pholisi, i sefydliad sy’n dwyn teitl prifysgol yn ei hawl ei hun i fod yn aelod o brifysgol arall, y mae Caerdydd a’r Coleg Meddygaeth wedi gorfod tynnu’n ôl o aelodaeth Prifysgol Cymru, a bydd hyn yn digwydd ar ddyddiad yr uno, pan fydd y teitl newydd yn dod yn weithredol. Mae darpariaeth wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd gadw cysylltiad â Phrifysgol Cymru fel Sefydliad Cyswllt (Cysylltiedig) ar ôl y dyddiad hwnnw. Y mae Caerdydd (sydd ers sawl blwyddyn wedi dal ond heb ddefnyddio ei phwerau dyfarnu graddau ei hun) wedi nodi y bydd, o 1 Awst 2005 ymlaen, yn dechrau cofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd fydd yn arwain at ddyfarnu gradd Caerdydd yn hytrach na gradd Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, oherwydd rôl Cymru-gyfan y [[Coleg Meddygaeth]], y mae [[Caerdydd]] a CMPC, yn y dyfodol rhagweladwy, yn dymuno parhau i gofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd is-raddedigion Prifysgol Cymru mewn meddygaeth, deintyddiaeth a rhai meysydd perthynol.