Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twrist (sgwrs | cyfraniadau)
treigladau ddrwg!
Twrist (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau fach
Llinell 1:
== Sefydlu ==
 
Sefydlu Prifysgol Cymru drwy gyfrwng [[Siarter Frenhinol]] ar 30 [[Tachwedd]] [[1893]] oedd penllanw’r hyn y gellid ei ddisgrifio, yn gywir ddigon, fel ‘mudiad’ prifysgol Cymru. Yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd adfywio ym mhob agwedd ar fywyd Cymru: economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol. Ym [[1896]], datganodd [[John Viriamu Jones]], [[Prifathro]] cyntaf y Coleg Prifysgol yng Nghaerdydd, nad oedd ‘hanes Cymru yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf yn ddim llai na hanes ei chynnydd addysgol’ ac ni chafodd yr un agwedd ar fywyd cyhoeddus Cymru yn y cyfnod hwn fwy o sylw na chreu’r Brifysgol genedlaethol, ffederal. Deilliodd y Brifysgol o gynnydd aruthrol yn yr angen am gyfleoedd addysgol, dyheadau lleol cryf ac ysbrydoliaeth genedlaethol a oedd yn cael ei theimlo i’r carn, a hynny drwy uno tri Choleg a oedd eisoes yn bod: Coleg Prifysgol Cymru, [[Aberystwyth]] (a agorwyd ym 1872 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1889); [[Coleg Prifysgol De Cymru]] a [[Sir Fynwy]] (a agorwyd ym [[1883]] ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, [[1884]]); a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, ym [[Mangor|Bangor|Mangor]] (a agorwyd ym [[1884]] ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, [[1885]]).
 
Cyn [[1893]], yr oedd y Colegau a sefydlodd y Brifysgol wedi bod yn paratoi eu myfyrwyr ar gyfer graddau allanol [[Prifysgol Llundain]], ac fel corff ar gyfer arholi a dyfarnu graddau yn bennaf y cafodd y Brifysgol ei chyfansoddi. Materion i’r Colegau eu hunain oedd penodi staff academaidd a’r cyfrifoldeb dros addysgu, a chafodd peirianwaith ffederal Llys y Brifysgol a Senedd y Brifysgol ei gynllunio i sicrhau bod y cynlluniau astudio yr oedd y Colegau’n eu darparu yn ddigonol ar gyfer dyfarnu graddau’r Brifysgol, ac i ddiogelu’r safonau arholi. Mae’r gwahaniaeth bras hwn rhwng y cyfrifoldebau ffederal a’r cyfrifoldebau cyfansoddol yn parhau hyd heddiw.
Llinell 11:
== Sefydliadau Newydd ==
 
Cyn iddo gael ei ailgyfansoddi, disgrifiodd Llys y Brifysgol waith [[Comisiwn Haldane]] fel ‘carreg filltir yn natblygiad [[Addysg Uwch]] yng [[Nghymru|Cymru|Nghymru]]’, a dyna fel y bu, oherwydd, heblaw addasu systemau llywodraethu mewnol y Brifysgol, braenarodd Adroddiad aelodau’r [[Comisiwn Brenhinol]] y tir ar gyfer dau sefydliad newydd yng Nghymru a oedd i ddod yn aelodau allweddol o’r Brifysgol.
 
Cafodd cyn-[[GolegColeg Technegol Abertawe|ColegGoleg Technegol Abertawe]] ei ymgorffori drwy Siarter yn bedwerydd Coleg Cyfansoddol y Brifysgol yn fuan iawn wedyn ym [[1920]], oherwydd gweithredu cyflym gan hyrwyddwyr [[Abertawe]], Llys y Brifysgol a’r Cyfrin Gyngor. Er gwaethaf amheuon ar y dechrau a oedd darpariaethau’r Coleg Technegol ar gyfer astudio ac ymchwilio yn ddigonol, a phosibilrwydd cysylltiad â Chaerdydd ar gyfer Peirianneg, sicrhawyd bod Abertawe yn ymuno’n llwyddiannus â’r Brifysgol drwy gyfrwng cynlluniau Abertawe ei hun i fodloni awydd Comisiwn Haldane i weld [[Cyfadran Gelfyddydau]] yn cael ei sefydlu yn y Coleg.
 
Llawer mwy cymhleth ac anodd ei gyflawni oedd sefydlu [[Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru]] yn Ysgol Gyfansoddol gyntaf y Brifysgol. Bu argymhelliad Haldane y dylai’r Ysgol ddod yn aelod cyfansoddol, yn annibynnol ar ei ‘rhiant’, [[Caerdydd]], yn ddadleuol iawn, a theimlai Senedd y Brifysgol ei hun y byddai gwahanu’r Ysgol oddi wrth y Coleg yn andwyol i uniondeb academaidd a buddiannau cyffredinol y ddau sefydliad. Nid tan 1931 y cafwyd cyfaddawd effeithiol, er mwyn bodloni’r pryderon niferus a leisiwyd ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer astudiaethau rhag-glinigol a threfniadau ar gyfer prydlesu adeiladau [[Coleg Caerdydd]]. Yna creodd Siarter Atodol [[1931]] Ysgol newydd (i adlewyrchu’r ddarpariaeth un-Gyfadran mewn Meddygaeth), o dan arweiniad Profost, gan ddynodi Llys y Brifysgol yn awdurdod llywodraethu goruchaf ar y sefydliad newydd hefyd.
Llinell 29:
== Argyfwng yng Nghaerdydd ==
 
Byddai argyfwng ariannol difrifol yng Ngholeg Caerdydd yn y [[1980au]] yn dwyn goblygiadau o bwys ar gyfer atebolrwydd cyhoeddus sefydliadau addysg uwch yn y DU a chafodd hyn effaith yn naturiol ar y Brifysgol ffederal ei hun. Yn sgil adroddiad gan Weithgor ar Bwerau a Swyddogaethau ym [[1989]], sefydlwyd [[Cyd-bwyllgor Cynllunio ac Adnoddau]] (JPRC) gan y Brifysgol i baratoi cynlluniau strategol ar gyfer y Brifysgol gyfan. Arweiniodd newidiadau eraill at greu system o Baneli Pwnc rhyng-golegol, penodi Is-Ddirprwy Ganghellor i gadeirio’r JPRC, a Thrysorydd Prifysgol i fod yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i’r Cyngor ar hyfywedd ariannol y Brifysgol a’r sefydliadau cyfansoddol.
 
== Newid a Newid Eto ==
 
Er hynny, byrhoedlog fu unrhyw obaith bod y Brifysgol ar drothwy cyfnod o sefydlogrwydd lle y gallai’r canol ffederal cyfnerthedig chwarae rhan amlycach ym materion y Brifysgol. Bu newidiadau mawr yn strwythur addysg uwch o dan [[DdeddfDeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992|DeddfDdeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992]], y penderfyniad cysylltiedig i sefydlu [[Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru]] ym mis [[Ebrill]] [[1993]], a thystiolaeth gynyddol o bwysau mewnol yn erbyn yr hyn a welid fel symud yr awdurdod dros gynllunio oddi wrth y sefydliadau cyfansoddol tuag at y canol ffederal oll yn sbardun ar gyfer gwneud adolygiad cynnar o ddiwygiadau [[1989]], a hynny ar fyrder. Sefydlwyd Gweithgor arall gan y Brifysgol o dan gadeiryddiaeth [[Syr Melvyn Rosser]], [[Llywydd]] CPC [[Aberystwyth]], i edrych ar swyddogaeth y Brifysgol yn system addysg uwch newydd Cymru, ac i adolygu strwythur gweinyddol mewnol y Brifysgol.
 
Mabwysiadwyd Adroddiad Rosser a’i argymhellion gan Lys y Brifysgol ym mis Gorffennaf [[1993]], a nodweddion allweddol y system lywodraethu newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 1995 oedd: Datganiad Cenhadaeth ar gyfer y Brifysgol, o’i chyferbynnu â’r sefydliadau cyfansoddol unigol; corff newydd a dylanwadol, [[Bwrdd yr Is-Gangellorion]], y mae ei graidd yn cynnwys Is-Gangellorion y chwe sefydliad cyfansoddol; lleihau maint Cyngor y Brifysgol, ond gan gadw cyfran yr aelodau lleyg; teitl newydd o Is-Ganghellor Hþn i’r prif swyddog academaidd a gweithredol, a etholir erbyn hyn gan y Brifysgol; swydd newydd Ysgrifennydd Cyffredinol, y mae ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau fel prif swyddog gweinyddol y Brifysgol yn cynnwys swyddogaethau cyn-swydd Cofrestrydd y Brifysgol; ac addasiadau yn swyddogaeth y Trysorydd, y mae ei gyfrifoldebau neu ei chyfrifoldebau bellach yn ymwneud â chronfeydd y Brifysgol ffederal yn unig. Yn sgil y newidiadau hyn, cafodd y JPRC a swydd yr [[Is-Ddirprwy Ganghellor]] eu dirwyn i ben.
 
Cafwyd pennod newydd yng nghyd-berthnasoedd y Brifysgol ffederal pan roddwyd Adroddiad Rosser ar waith, yn bennaf oherwydd bod Bwrdd yr Is-Gangellorion wedi dod i’r amlwg fel corff cynghorol allweddol. Mae y ‘llinell ddeuol’ a chreu’r prifysgolion newydd er 1992 wedi creu heriau newydd i’r hen brifysgolion mwy traddodiadol yn y DU, ac felly hefyd polisïau a gweithdrefnau newydd y llywodraeth ar gyfer ariannu. Mae Prifysgol Cymru wedi ceisio ymateb yn gyflym ac effeithiol drwy sicrhau a gwella sefyllfa’r gwasanaethau canolog y mae’n eu trefnu - megis ei chanolfan breswyl yng Ngregynog yng nghanolbarth Cymru, [[Gwasg Prifysgol Cymru]], a’i sefydliad ymchwil llwyddiannus iawn ar gyfer [[Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd]] yn [[Aberystwyth]].
Llinell 43:
Er hynny, pwysicach at y tymor hir oedd y pwyslais newydd ar bartneriaeth ffederal gryf rhwng y Sefydliadau Cyfansoddol a’r Colegau sy’n aelodau o’r Brifysgol. Rhoddwyd hygrededd pellach i’r cysyniad o bartneriaeth drwy fabwysiadu teitlau sefydliadol newydd a derbyn dau aelod sefydliad newydd – [[Athrofa Prifysgol Cymru]], [[Caerdydd]] a Choleg Prifysgol Cymru, [[Casnewydd]] – ym [[1996]]. Ymgorfforwyd diffiniad cliriach o amcanion ffederaliaeth a chydnabyddiaeth gan y ddwy ochr i briod bwerau a chyfrifoldebau’r Brifysgol a’i rhwydwaith o aelod-sefydliadau mewn Fframwaith Academaidd newydd ym 1997. Yr oedd cytundeb yr holl bartneriaid ffederal i’r Fframwaith yn angenrheidiol ac yn amserol am fod y Fframwaith yn cyflwyno ymagwedd ddatganolaidd at faterion llywodraethu a rheoli academaidd, gan atseinio, drwy hynny, nodau [[Adroddiad Dearing ar Addysg Uwch]] a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno [[Cynulliad Cenedlaethol]] ar gyfer Cymru.
 
Er gwaethaf y ffaith fod y newidiadau hyn wedi dod â gwell sefydlogrwydd, yr oedd y Brifysgol, a’r sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol, yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Y Cynulliad Cenedlaethol ei hun a osododd un o’r cyfryw heriau. Yn [[2001]], cynhaliodd Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol-Oes y Cynulliad adolygiad o addysg uwch yng Nghymru. Yr oedd rhai sylwebyddion o’r farn bod darganfyddiadau’r adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis [[Ionawr]] [[2002]], yn herio dilysrwydd rôl y Brifysgol a hyd yn oed yn rhagargoeli ei . Drwy gyd-ddigwyddiad, yr oedd y Brifysgol wedi comisiynu’r cyfreithiwr academaidd o fri, [[Syr David Williams]], [[cyn-Is-Ganghellor]] [[Caer-grawnt]], i ymgymryd ag adolygiad o’i haelodaeth a’i strwythurau. Yr oedd adroddiad Williams yn cynnig y dylid mewn gwirionedd helaethu Prifysgol Cymru yn hytrach na’i rhannu, drwy dderbyn yn aelodau y pum sefydliad addysg uwch Cymreig nad oeddynt ar y pryd yn aelodau.
 
Byddai Prifysgol Cymru a ymhelaethid felly yn cynnwys holl sefydliadau Cymru o dan adain ei gradd, gan wireddu, drwy hynny, y cysyniad o “Un Genedl, Un Brifysgol”. Cymeradwywyd y cynigion gan yr wyth aelod-sefydliad a chan Gyngor y Brifysgol ym mis Gorffennaf 2002 ac, wedi hynny, gwahoddwyd y pum sefydliad nad ydynt yn aelodau i ystyried ymuno â’r Brifysgol. Daeth ymatebion cadarnhaol i law oddi wrth pob un ohonynt ar wahân i Brifysgol Morgannwg, a chyflwynwyd y newidiadau angenrheidiol i Siarter a Statudau’r Brifysgol er mwyn caniatáu i [[Athrofa AU]] [[Abertawe]], [[Athrofa AU Gogledd Ddwyrain Cymru]], [[Coleg y Drindod]], [[Caerfyrddin]] a [[CholegColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru|ColegCholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru]] ddyfod yn aelodau llawn i’r Cyfrin Gyngor am gymeradwyaeth yn ystod 2003/04. Disgwylir ymateb gan y Cyfrin Gyngor yn awr.
 
Ar yr un pryd ag yr oedd y datblygiadau cadarnhaol hyn yn digwydd, cafodd dau o aelodau sefydledig y Brifysgol eu hunain yn y sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer gwrthgilio o aelodaeth. Yn 2003, penderfynodd Caerdydd a’r [[Coleg Meddygaeth]], oedd wedi bod yn cydweithio’n agos ers rhai blynyddoedd, y byddent yn uno ar 1 Awst 2004 dan y teitl ffurfiol “Prifysgol Caerdydd” (teitl y bu [[Prifysgol Cymru, Caerdydd]], yn ei ddefnyddio fel “enw cyhoeddus” ers rhai blynyddoedd). Gan nad ystyrir ei fod yn bosibl, o dan y fframwaith cyfreithiol a pholisi, i sefydliad sy’n dwyn teitl prifysgol yn ei hawl ei hun i fod yn aelod o brifysgol arall, y mae [[Caerdydd]] a’r [[Coleg Meddygaeth]] wedi gorfod tynnu’n ôl o aelodaeth Prifysgol Cymru, a bydd hyn yn digwydd ar ddyddiad yr uno, pan fydd y teitl newydd yn dod yn weithredol. Mae darpariaeth wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd gadw cysylltiad â Phrifysgol Cymru fel Sefydliad Cyswllt (Cysylltiedig) ar ôl y dyddiad hwnnw. Y mae Caerdydd (sydd ers sawl blwyddyn wedi dal ond heb ddefnyddio ei phwerau dyfarnu graddau ei hun) wedi nodi y bydd, o 1 Awst 2005 ymlaen, yn dechrau cofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd fydd yn arwain at ddyfarnu gradd Caerdydd yn hytrach na gradd Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, oherwydd rôl Cymru-gyfan y [[Coleg Meddygaeth]], y mae [[Caerdydd]] a CMPC, yn y dyfodol rhagweladwy, yn dymuno parhau i gofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd is-raddedigion Prifysgol Cymru mewn meddygaeth, deintyddiaeth a rhai meysydd perthynol.
 
Yn bennaf yn sgil datblygiadau yn y berthynas â Chaerdydd, ym mis Mawrth [[2004]], penderfynodd y Cyngor sefydlu Gweithgor, dan Gadeiryddiaeth y Dirprwy Ganghellor, i adolygu a’i gynghori ar rolau, swyddogaethau a strwythur y Brifysgol yn y dyfodol, a’i pherthnasau â’r sefydliadau yn y dyfodol. Disgwylir y bydd y Gweithgor yn adrodd yn ystod [[2005]].