Clydno Eidyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3400929 (translate me)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Tywysog neu bendefig o'r [[Hen Ogledd]] oedd '''Clydno Eidyn''' (fl. 6ed ganrif). Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab [[Cynfelyn]] ap [[Dyfnwal Hen]], tra yn y testun achyddol [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]] disgrifir ef fel mab i Cynwyd Cynwydion. Awgryma ei enw y gallai fod yn arglwydd [[Caeredin|Din Eidyn]], ac efallai yn rhagflaenydd [[Mynyddog Mwynfawr]].
 
==Hanes a thraddodiad==
Roedd ganddo fab o'r enw [[Cynon ap Clydno Eidyn]], ac yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'' crybwyllir merch iddo o'r enw Eurneid. Yn ôl ''[[Bonedd y Saint]]'', ei ferch Euronwy oedd mam [[Grwst]], nawddsant [[Llanrwst]].
 
Yn ''[[Llyfr Du'r Waun]]'', dywedir i [[Elidir Mwynfawr]] gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn [[Arfon]], ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, [[Nudd Hael]], [[Mordaf Hael]] a [[Rhydderch Hael]] arwain byddin i Arfon i geisio dial, ond iddynt gael eu gorchfygu gan [[Rhun ap Maelgwn Gwynedd]].
Llinell 7 ⟶ 8:
==Llyfryddiaeth==
* Peter C. Bartrum (1993) ''A Welsh classical dictionary'' (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Hen Ogledd}}