Breuddwyd Rhonabwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Chwedl [[Gymraeg]] ganoloesol sy'n perthyn i Gylch [[Arthur]] yw '''Breuddwyd Rhonabwy''' ([[Cymraeg Canol]]: '''Breudwyt Ronabwy'''). Mae'n chwedl ymwybodol-lenyddol iawngan lenor dawnus gydag elfen gref o'r [[bwrlesg]] ynddi. aFe'i leolirlleolir yn hen deyrnas [[teyrnas Powys|Powys]] yn amser [[Madog ap Maredudd]] (m. [[1160]]). Mae'r awdur yn anhysbys ond mae'n bosibldebygol ei fod yn frodor o Bowys.
 
==Y testun a'i ddyddiad==
Llinell 6:
 
==Crynodeb==
Mae [[Iorwerth ap Maredudd]], brawd [[Madog ap Maredudd]], tywysog Powys, wedi mynd ar herw i [[Lloegr|Loegr]]. Mae Madog yn gwysio ddynion i fynd i'w nôl, yn cynnwys Rhonabwy. Daw Rhonabwy a'i ddau gydymaith un noson i dreulio'r nos mewn cwt o dŷ aflan anhygoel, ac yno wrth gysgu ar ddarn o groen budr mae Rhonabwy yn cael breuddwyd rhyfedd. Mae'n weld ei hun a'i gydymdeithion yn cerdded ar hyd maes a daw marchog dieithr atynt. Iddawg Cordd Prydain yw ei enw ffug-arwrol. Ymlaen yr ânt ynghyd nes cyrraedd [[afon Hafren]]. Yno ar ynys yn yr afon y mae'r brenin [[Arthur]] yn eistedd. Dechreuant ymddiddan a daw gŵr yno i atgoffa Arthur y dylai ymladd â'i elynion. Ymaith â'r cwmni eto ond yn lle mynmynd i ymladd mae Arthur yn aros o'r neilltu ac yn dechrau chwarae [[gwyddbwyll]] gyda [[Owain ab Urien]], marchog iddo. Daw negesydd yarall i hybysuhysbysu Owain fod milwyr Arthur am ryw reswm neu'i gilydd yn poeniydiopoenydio'r haid o [[brân|frain]] sy'n ei ganlyn i bobman. MaeOnd mae Arthur yn gwrthod eu hymatal ac yn canolbwyntio ar y chwarae. Y drydded waith y daw'r negesydd mae Owain yn gorchymyn codi ei ystondardd yng nghanol y frwydr ac yna mae'r brain yn dechrau ennill y dydd ar farchogion Arthur. Ond parhau i chwarae gwyddbwyll yn gwbl ddihîd a wna'r ddau arwr. Yna daw cenhadon oddi wrth Osla, gelyn Arthur o geisio cymod ac mae Arthur, ar ôl ymgynghori, yn caniatáu hynny. Yna mae Rhonabwy yn deffro ac yn cael ei fod wedi cysgu tridiau a theirnos.
 
==Nodweddion==
Llinell 13:
Dyma'r unig enghraifft o ddefnyddio ffrâm y breuddwyd mewn llenyddiaeth Cymraeg Canol (mae'r breuddwyd yn ''[[Breuddwyd Macsen]]'' yn ddigwyddiad yn y stori). Ond ceir cyfatbiaethau yn nhraddodiad llenyddol [[Iwerddon]] ac roedd y breuddwyd fel ffrâm yn gonfensiwn cyffredin mewn chwedlau crefyddol canoloesol. Elfen arall sy'n atgoffa dyn o'r chwedlau Gwyddeleg yw'r dychan eithafol wedi'i asio â disgrifiadau llachar ac iaith fwrlesg. Ni allai neb ddeall gair o ganu'r beirdd i Arthur, er enghraifft, ac mae rhai o'r disgrifiadau o liw ac arfau meirch a marchogion yn gampweithiau llenyddol ynddynt eu hunain.
 
Mae'r rhestr o'r arwyr yn llys Arthur yn debyg i'r un a geir yn ''[[Culhwch ac Olwen]]'' aca cheir traddodiadau dilys am Owain ab Urien a'i frain yn ogystal.
==Llyfryddiaeth==