Rhodri Glyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Twrist (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''[[Rhodri Glyn Thomas]]''' Aelod Cynulliad [[Plaid Cymru]] dros Etholaeth [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]] ers [[1999]].
 
Ganwyd ym [[1953]] yn [[Wrecsam]], [[Clwyd]], [[Gogledd Cymru]]. Gweinidog o Langadog oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn ''Llangadog'' a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am y Brifysgol yn [[Aberystwyth]] ym [[1975]] i astudio am radd yn y Gymraeg. Wedi graddio ym [[1978]], astudiodd am radd BD mewn Diwinyddiaeth ym [[Mhrifysgol Cymru, Bangor]]. Ym [[1991]] astudiodd Rhodri am radd MTh ym [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Mhrifysgol Cymru, [[Llanbedr Pont Steffan]], yn darllen Diwinyddiaeth Americanaidd.
 
Ym [[1992]] ymladdodd hen sedd seneddol [[Caerfyrddin]] yn yr Etholiad Cyffredinol dros y Blaid. Yn Etholiad Cyffredinol [[1997]] safodd yn Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ym [[1999]] ymladdodd yr un etholaeth yn etholiadau'r Cynulliad gan ennill o 6,980 o bleidleisiau a chynyrchu 'swing' enfawr o 21% yn erbyn y [[Blaid Lafur]].