Melysfwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nodyn GPC, tynnu rhyngwici (Wiciddata ar waith)
berwi siwgr
Llinell 1:
[[Bwyd]] â chynnwys uchel o [[siwgr]] sy'n rhoi iddo flas melys yw '''melysfwyd'''.<ref>{{dyf GPC |gair=melysfwyd |dyddiadcyrchiad=28 Awst 2014 }}</ref> Mae [[siocled]], [[melysion]] neu losin, a [[crwst|chrystiau]] i gyd yn felysfwydydd. Bwyteir yn aml am [[pwdin|bwdin]] neu fel [[bwyd cyfleus]] neu [[byrbryd|fyrbryd]].
 
== Berwi siwgr ==
Defnyddir y broses [[berwi|ferwi]] siwgr i wneud nifer o felysfwydydd. Pan [[toddi|ymdoddir]] [[swcros]] mewn dŵr, cynhyrchir [[surop]]. Wrth wresogi'r [[toddiant]] anweddir rhywfaint o'r dŵr gan grynhoi'r siwgr berwi. Trwy atal y broses ar wahanol dymereddau ac oeri'r toddiant, ceir amryw o ansoddau. Gellir newid yr ansawdd a'r golwg ymhellach drwy ychwanegu cynhwysion a thrin y cymysgedd wrth iddo oeri.<ref name=Davidson>Davidson, Alan. ''The Oxford Companion to Food'' (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 768.</ref>
{| class="wikitable" style="float: right"
|-
! Tymheredd !! Enw !! Melysfwydydd
|-
| 106–113°C (223–236°F) || edau ||
|-
| 112–116°C (234–240°F) || pêl feddal || [[ffondant]], [[cyffug]]
|-
| 118–121°C (244–250°F) || pêl led-galed || [[caramel]]au meddal, [[cyflaith]]
|-
| 121–130°C (250–266°F) || pêl galed || caramelau caled, cyflaith,<br/>[[malws melys]], [[roc Caeredin]]
|-
| 132–143°C (270–290°F) || hollt feddal || [[menyn caramel]], [[nyget]],<br/>[[hymbyg]], [[losin llygad tarw]],<br/>[[roc (candi)|roc glan môr]]
|-
| 149–154°C (300–310°F) || hollt galed || [[siwgr barlys]], [[losin sur]]
|-
| 160–177°C (320–350°F) || caramel || [[taffi cnau]], [[pralin]]
|}
Ers diwedd y 19eg ganrif defnyddir [[thermomedr]]au arbennig i fesur tymheredd toddiannau siwgr berwi. Erbyn heddiw mae gan wneuthurwyr melysfwydydd gynhwysion sy'n bur gemegol, ond yn y cartref gellir defnyddio hen system i bennu gwahanol grynodiadau siwgr berwi. Am bob cam ceir dull i bennu cyflwr y toddiant. Cyn profi, tynnir y badell sy'n cynnwys y toddiant siwgr poeth o'r gwres a'i oeri drwy roi'r gwaelod mewn dŵr oer. Mae hyn yn atal y toddiant rhag berwi i gam uwch. Dyma'r dulliau i brofi camau berwi siwgr:
# Cam edau: caiff ychydig o surop ei ddiferu o lwy, neu ei ymestyn rhwng bys a bawd, gan ffurfio edau fer, main.
# Cam pêl feddal: bydd y surop yn ffurfio pêl mewn dŵr, ond yn colli ei siâp yn syth pan yn yr aer.
# Cam pêl led-galed: mae'r surop yn wydn ond yn ystwyth mewn dŵr. Bydd yn colli ei siâp yn gyflym mewn tymheredd ystafell.
# Cam pêl galed: gellir siapio'r surop yn bêl yn hawdd. Pan tynnir o'r dŵr mae'n cadw ei siâp ac yn teimlo'n wydn iawn. Yn y tri cham "pêl", mae'r surop yn teimlo'n eithaf gludiog.
# Cam hollt feddal: difera surop i ddŵr rhew, a gellir ei ymestyn rhwng y dwylo. Bydd yn gwahanu'n edafedd caled ond ystwyth, ac yn teimlo ychydig yn ludiog.
# Cam hollt galed: tynnir surop o'r dŵr ac fe'i blygir. Mae'n torri'n hawdd ac mae ganddo liw melyn ac nid yw'n ludiog.
# Cam caramel: pennir y cam hwn drwy ddiferu ychydig o surop ar blât gwyn ac arsylwi ei liw. Os yw'n lliw mêl euraidd, caramel golau yw hi, ac mae caramel tywyll yn felyngoch. Os yw'r toddiant yn coginio y tu hwnt i'r cam hwn, mae'n llosgi ac yn troi'n ddu ac yn dda i ddim.<ref name=Davidson/>
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 7 ⟶ 36:
[[Categori:Pwdinau]]
[[Categori:Siwgr]]
{{eginyn melysfwyd}}