Hela'r dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybedyn (sgwrs | cyfraniadau) Awgrymiadau ar gyfer nodi ffynonellau yn bennaf; ambell 'typo' bach. |
Dadwneud y golygiad 1705516 gan Gwybedyn (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:St. Stephens Day (26 December) in Dingle, Co Kerry.jpg|bawd|Y 'Wren Boys' yn dathlu ''Lá an Dreoilín'' yn Dingle, [[Swydd Kerry]]]]
[[Delwedd:Eurasian-Wren-Troglodytes-troglodytes.jpg|bawd|Y dryw (''[[Troglodytes troglodytes]]'')]]
Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd '''hela'r dryw''' (amrywiad: '''hela'r dryw bach''') a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu [[Lleu|duw'r goleuni]], drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd
Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).<ref>[http://piereligion.org/wrenkingsongs.html www.piereligion.org (gwefan 'Proto-Indo-European Religion ');] adalwyd 01 Rhagfyr 2015</ref> Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys [[Saesneg]] a [[Ffrangeg]]. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at [[Nos Ystwyll]] (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn [[Iwerddon]], ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr ([[Gŵyl San Steffan]]).
Llinell 7:
Dywed [[Edward Llwyd]] (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn [[elor]] ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o Gymru oddeutu 1890.<ref>''Chwedlau Gwerin Cymru'' gan Robin Gwyndaf; Amgueddfa Werin Cymru 1995.</ref>
Weithiau, os nad oedd dryw ar gael defnyddid [[aderyn y to]].
==Y dryw mewn chwedloniaeth Geltaidd==
[[File:Circle_Celtic_Ornament_2.svg|bawd|chwith|160px|Patrwm Celtaidd yn dangos adar wedi'u dylunio yn [[Llyfr Kells]].]]
Roedd rhywbeth cyfrin iawn am adar i'r [[Celtiaid]]; fe geir darluniau niferus ohonynt, yn arbennig o adar dŵr.
Mae'r traddodiad o hela'r dryw wedi parhau'n ddi-dor yn yr Iwerddon<ref>[http://www.dingle-peninsula.ie/wren.html www.dingle-peninsula.ie;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref> ac yn [[Ynys Manaw]].<ref>[http://manxscenes.com/2012/12/hunt-the-wren-2012-st-stephens-day-manx-tradition-boxing-day/ manxscenes.com;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref>. Yn Ynys Manaw, gwrthodai'r pysgotwyr fynd i'w llongau heb bluen y dryw - i ddod â lwc dda; credai pobl yr ynys hefyd fod plu'r dryw yn cadw melltithion gwrachod i ffwrdd. Mewn chwedloniaeth Gaeleg, mae adar yn gyfryngwyr rhwng y byd hwn a'r byd nesaf. Defnyddiai'r derwyddon batrwm hedfan adar i ddarogan a chred rhai fod y gair 'dreoilín' (dryw) yn gywasgiad o'r gair 'derwydd'. Yng Ngorllewin Ceri, ceir ceffyl cogio yn arwain yr orymdaith, un tebyg iawn i'r Fari Lwyd, a gwisgir y 'Wrenboys' mewn gwisgoedd o wellt. Rhan anhepgor o'r ddefod oedd claddu'r dryw a ddeuai ar ddiwedd y ddefod. Caed cân 'tafod yn y foch' yn rhan o'r hwyl, ac yn symbol o gladdu'r hen haul, cyn Alban Arthan.
|