Uwch Gynghrair Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Ym mis Hydref 1991 gwnaeth Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol CBDC ar y pryd, benderfyniad i sefydlu cynghrair genedlaethol gan ei fod yn credu bod bygythiad i fodolaeth Cymru fel gwald annibynnol o fewn [[Fifa]]. Mae gan CBDC ynghyd â [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Chymdeithas Bêl-droed Lloegr]], [[Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban]] a [[Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon|Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon]] sedd barhaol ar y [[Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol]] yn ogystal ag is-lywyddiaeth [[FIFA]] parhaol. Credir fod nifer o wledydd yn gweld hyn yn annheg ac yn chwilio am esgus i uno pedair gwlad Ynysoedd Prydain fel un tîm ar gyfer y [[Deyrnas Unedig]].
 
Roedd y penderfyniad i sefydlu Cynghrair Cymru yn un dadleuol ac amhoblogaidd gyda'r clybiau oedd eisoes yn chwarae ym mhyramid Lloegr. Roedd wyth clwb: [[C.P.D. Bae Colwyn|Bae Colwyn]], [[C.P.D. Dinas Bangor|Bangor]], [[C.P.D. Tref Caernarfon|Caernarfon]], [[C.P.D. Casnewydd|Casnewydd]], [[CPD Tref Merthyr]], [[C.P.D. Tref Y Barri|Y Barri]], [[C.P.D. Y Drenewydd|Y Drenewydd]] ac [[C.P.D. Y Rhyl|Y Rhyl]], neu'r "''Irate Eight''" fel a'u gelwir gan y wasg Seisnig, yn bygwth mynd â CBDC i lys am yr hawl i aros yn is-gynghreiriau Lloegr.<ref>{{cite web |url=http://www.s4c.cymru/sgorio/2012/teithior-tymhorau-199293/ |title=Teithio'r Tymhorau |published=Sgorio}}</ref>
 
Ond cyn y tymor agoriadol, penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ymuno yn y gynghrair newydd ond yn anffodus i'r Rhyl daeth eu cais yn rhy hwyr a bu rhaid iddyn nhw chwarae yn ail adran y pyramid Cymreig. Oherwydd gwaharddiadau gan CBDC bu rhaid i'r pum clwb arall chwarae eu gemau cartref dros y ffin yn Lloegr. Ond wedi tymor yn chwarae yng [[Caerwrangon|Nghaerwrangon]] penderfynodd Y Barri symud yn ôl i ymuno â'r pyramid Cymreig.