Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
offer
crwst burum
Llinell 32:
[[Delwedd:Strudel44.jpg|bawd|chwith|Strwdel afal.]]
Defnyddir blawd glwten-uchel, wyau, a chymhareb uwch na'r arfer o hylif i wneud toes hydrin a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Mae hyn yn rhoi iddo gryfder tynnol sy'n addas i wneud crystiau megis [[ffilo]] a [[strwdel]].<ref name=EB/>
 
=== Crwst burum ===
Gellir gwneud haenau o does [[burum]] a menyn, mewn dull tebyg i wneud crwst pwff, i greu [[crwst Danaidd]].<ref name=EB/>
 
== Offer gwneud crystiau ==
Llinell 41 ⟶ 44:
== Ar draws y byd ==
=== Gorllewin Ewrop ===
Yng [[Gwledydd Prydain|Ngwledydd Prydain]] mae crystiau yn cynnwys [[bynen|byns]] a lefeinir gyda burum. Ar y cyfandir, ceir strwdelau, crystiau cnau, [[meráng]]s, a [[crwst Danaidd|chrystiau Danaidd]].<ref name=Davidson/>
 
Datblygodd traddodiad cywrain a soffistigedig o wneud crystiau yn [[Ffrainc]], [[y Swistir]] ac [[Awstria]], gyda phwyslais ar gynhwysion o'r ansawdd gorau a gwaith llaw gofalus a glân, a dilynir y broses hon ar draws y byd heddiw. Yn ôl y traddodiad hwn, mae toes neu deisen yn ffurfio sail i'r crwst, a rhoddir blasau ac ansoddau gwrthgyferbyniol gan lenwi gyda [[jam]], [[hufen]], ''[[crème pâtissière]]'', neu [[cwstard|gwstard]], ac yn aml ychwanegir [[ffondant]], [[siocled]], neu [[eisin]].<ref name=Davidson/>