Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
crwst burum
crwst pei
Llinell 32:
[[Delwedd:Strudel44.jpg|bawd|chwith|Strwdel afal.]]
Defnyddir blawd glwten-uchel, wyau, a chymhareb uwch na'r arfer o hylif i wneud toes hydrin a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Mae hyn yn rhoi iddo gryfder tynnol sy'n addas i wneud crystiau megis [[ffilo]] a [[strwdel]].<ref name=EB/>
 
=== Crwst pei ===
[[Delwedd:Flaky Vegan Pie Crust (4277580052).jpg|bawd|Crwst pei [[figan]]aidd.]]
Crwst pei yw'r prif fath o grwst croyw (hynny yw, heb ei lefeinio) a wneir yn y popty modern. Gan amlaf, cymysgedd syml o flawd, ychydig o ddŵr, braster (30–40 y cant o'r toes), a [[halen]] (1–2 y cant) yw crwst pei. Cymysgir yn fuan i geisio atal y toes rhag troi'n rhy ystwyth, sy'n crebachu'r ac yn caledu'r crwst. I wneud y crwst yn haenog, ymdrechir i gadw'r braster mewn rhannau bychain ac heb ei daenu'n llwyr trwy'r toes, ac er y diben hwn dodir y toes yn yr oergell cyn ychwanegu'r braster. [[Bloneg]] yw'r braster mwyaf boblogaidd i gynhyrchu crwst pei haenog a chanddo flas boddhaol. Nid yw [[olew]]on yn addas gan nad ydynt yn solet wrth gymysgu'r toes. Gellir ychwanegu [[llaeth]] neu ychydig o [[siwgr india corn]] i frownio'r crwst yn well ac i flasu. Yn y cartref ychwanegir ychydig o [[powdwr pobi|bowdwr pobi]] neu [[soda pobi]] i wneud y crwst yn freuach, ond yr anfantais yw bydd y crwst yn llai haenog.<ref name=EB2/>
 
=== Crwst burum ===