Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crwst"

Ychwanegwyd 872 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(crwst pei)
[[Delwedd:Lille Meert2.JPG|bawd|Ffenestr siop grystiau Ffrengig.]]
[[Delwedd:Palmeras de hojaldre 1.jpg|bawd|[[Palmier]]s, bisgedi siwgr a wneir o grwst pwff.]]
Bwyd [[pobi|pob]] a wneir o [[toes|does]] yw '''crwst'''. Gwneir y toes o [[blawd|flawd]], [[halen]], cymhareb uchel o [[braster|fraster]], ac ychydig o hylif. Gall hefyd gynnwys [[siwgr]] a chynhwysion eraill i flasu.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/446138/pastry |teitl=pastry (food) |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Y prif fathau o does a ddefnyddir i wneud crystiau yw crwst brau, crwst pwff, crwst haenog, a chrwst ''choux''. Mae gwasgedd [[anwedd dŵr]] yn chwyddo'r swigoed aer yn y toes tra'n pobi, a cheirgall hefydyr [[sbwnj Génoiseager]] a chrystiaugynhyrchir braswrth ai'r braster gyrraedd ei doddbwynt hefydd [[lefeinio|lefeinir]]'r crwst.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/49594/baking/50212/Sheeting-and-cutting |teitl=baking: steam leavening |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Lefeinir y mwyafrif o grystiau gan ager yn unig, ond ceir crystiau bras a lefeinir gyda [[burum]] megis [[crwst Danaidd|crystiau Danaidd]] a ''[[brioche]]''.<ref name=EB/><ref name=Davidson/>
 
[[Melysfwyd]]ydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis ''[[voul-au-vent]]s'', ''[[bouchée]]s'', a [[rhôl selsig|rholiau selsig]]. Bwyteir crystiau melys am [[pwdin|bwdin]] ac hefyd am damaid gyda [[coffi|choffi]] yng nghanol y bore neu am [[te'r prynhawn|de'r prynhawn]].<ref name=Davidson/> Defnyddir crwst ar ffurf dalennau tenau i leinio padellau i wneud [[pei]]s a [[tarten|thartenni]]. Paratoir cig a [[pate]]s ''en croûte'' drwy eu hamlapio mewn crwst. Gellir hefyd siapio dalennau trwchus o grwst, a'u llenwi gyda [[sglein]] neu [[eisin]].<ref name=EB/>
 
== Geirdarddiad ==
== Mathau o grwst ==
=== Crwst brau ===
Crwst brau yw'r crwst a ddefnyddir amlaf. Defnyddir cymhareb 2:1 o flawd i fraster. Os [[menyn]] yw'r braster ceir crwst bras, os [[saim llysiau gwyn]] yw'r braster ceir ansawdd dda. Ceir nifer o amrywiadau drwy ychwanegu cynhwysion, gan gynnwys crwst [[gwenith cyflawn]], crwst [[cnau]], crwst [[caws]], crwst [[perlysiau]], crwst [[olewydd]], a chrwst [[hadau pabi]].<ref name=GH32>Good Housekeeping ''Food Encyclopedia'' (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 432.</ref> Caiff y cynhwysion eu cyfuno'n dda fel bo'r crwst pob yn frau ac yn fain ei ansawdd, ac yn tueddu i falu'n [[briwsion|friwsion]] yn hytrach na haenau.<ref name=EB/> Mae crwst brau melys yr un â chrwst brau, ond yn cynnwys siwgr, a weithiau [[melynwy]]. Defnyddir i wneud [[tarten]]nitartenni a [[pei|pheis]] melys.<ref name=GH32/> Mae'r crwst Ffrengig ''pate sucrée'' yn enghraifft o grwst brau sy'n cynnwys siwgr a melynwy.<ref name=BBC>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.bbc.co.uk/food/pastry |teitl=Pastry recipes |cyhoeddwr=[[BBC]] Food |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref>
 
=== Crwst pwff ===
[[Delwedd:Strudel44.jpg|bawd|chwith|Strwdel afal.]]
Defnyddir blawd glwten-uchel, wyau, a chymhareb uwch na'r arfer o hylif i wneud toes hydrin a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Mae hyn yn rhoi iddo gryfder tynnol sy'n addas i wneud crystiau megis [[ffilo]] a [[strwdel]].<ref name=EB/>
 
=== Crwst dŵr poeth ===
 
=== Crwst pei ===
[[Delwedd:Flaky Vegan Pie Crust (4277580052).jpg|bawd|Crwst pei [[figan]]aidd.]]
Crwst pei yw'r prif fath o grwst croyw (hynny yw, heb ei lefeinio) a wneir yn y popty modern. Gan amlaf, cymysgedd syml o flawd, ychydig o ddŵr, braster (30–40 y cant o'r toes), a [[halen]] (1–2 y cant) yw crwst pei. Cymysgir yn fuan i geisio atal y toes rhag troi'n rhy ystwyth, sy'n crebachu'r ac yn caledu'r crwst. I wneud y crwst yn haenog, ymdrechir i gadw'r braster mewn rhannau bychain ac heb ei daenu'n llwyr trwy'r toes, ac er y diben hwn dodir y toes yn yr oergell cyn ychwanegu'r braster. [[Bloneg]] yw'r braster mwyaf boblogaidd i gynhyrchu crwst pei haenog a chanddo flas boddhaol. Nid yw [[olew]]on yn addas gan nad ydynt yn solet wrth gymysgu'r toes. Gellir ychwanegu [[llaeth]] neu ychydig o [[siwgr india corn]] i frownio'r crwst yn well ac i flasu. Yn y cartref ychwanegir ychydig o [[powdwr pobi|bowdwr pobi]] neu [[soda pobi]] i wneud y crwst yn freuach, ond yr anfantais yw bydd y crwst yn llai haenog.<ref name=EB2/>
 
=== Crwst burum ===
Gellir gwneud haenau o does [[burum]] a menyn, mewn dull tebyg i wneud crwst pwff, i greu [[crwst Danaidd]].<ref name=EB/>
 
=== Crystiau eraill ===
Ymhlith y crystiau eraill a geir mae crwst [[blawd ceirch]] a chrwst [[siwed]]. Gellir hefyd ystyried y [[teisen|deisen]] [[sbwnj Génoise]] yn fath o grwst.<ref name=Davidson/>
 
== Offer gwneud crystiau ==
Yng [[Gwledydd Prydain|Ngwledydd Prydain]] mae crystiau yn cynnwys [[bynen|byns]] a lefeinir gyda burum. Ar y cyfandir, ceir strwdelau, crystiau cnau, [[meráng]]s, a chrystiau Danaidd.<ref name=Davidson/>
 
Datblygodd traddodiad cywrain a soffistigedig o wneud crystiau yn [[Ffrainc]], [[y Swistir]] ac [[Awstria]], gyda phwyslais ar gynhwysion o'r ansawdd gorau a gwaith llaw gofalus a glân, a dilynir y broses hon ar draws y byd heddiw. Yn ôl y traddodiad hwn, mae toes neu deisen yn ffurfio sail i'r crwst, a rhoddir blasau ac ansoddau gwrthgyferbyniol gan lenwi gyda [[jam]], [[hufen]], ''[[crème pâtissière]]'', neu [[cwstard|gwstard]], ac yn aml ychwanegir [[ffondant]], [[siocled]], neu [[eisin]].<ref name=Davidson/>
 
Mae crystiau [[Sbaen]] a [[Portiwgal|Phortiwgal]] yn llawn wyau, tra bo crystiau'r [[Eidal]] yn tueddu i gynnwys cymysgeddau o gnau ac nid cymaint o gynnyrch llaeth.<ref name=Davidson/>
== Gweler hefyd ==
* [[Pastai]]
* [[Pwdin]]
* [[Teisen]]
 
== Cyfeiriadau ==
65,357

golygiad