Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
 
=== Crwst ''choux'' ===
[[Delwedd:Profiterole by Swanksalot.jpg|bawd|[[Proffiterol]]iauProffiteroliau: pyffiau hufen a [[saws siocled]].]]
[[Delwedd:Liebesknochen3a.JPG|bawd|''[[Éclair]]'' siocled wedi ei dorri'n hanner.]]
Gwneir crwst ''choux'' drwy gymysgu blawd, halen, menyn, a dŵr berwedig gan ffurfio toes caled, ac ychwanegu [[wy (bwyd|wyau]] cyfan drwy guro. Pobir darnau bychain o'r toes ar [[astell bobi|estyll pobi]], ar dymheredd uchel i gychwyn. Ffurfir swigoed aer wrth gymysgu'r toes, ac mae'r rhain yn chwyddo'n gyflym wrth bobi. O ganlyniad mae'r tu mewn yn llawn tyllau mawr a ellir eu llenwi gyda chynhwysion melys, megis [[hufen chwip]] i wneud [[pwff hufen|pyffiau hufen]], neu sawrus, megis [[berdys]] mewn saws i wneud ''voul-au-vents''. Mae tu allan y crwst yn ceulo wrth bobi ac yn weddol galed ac yn lliw brown.<ref name=EB2>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/49594/baking/50221/Puff-pastry |teitl=baking: puff pastry, chou paste |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref>
 
Gellir ychwanegu llaeth, ac ychydig o siwgr os yw'n grwst melys. Ymhlith y nifer o felysfwydydd sy'n defnyddio crwst ''choux'' mae [[proffiterol]]iau, ''[[éclair]]s'', y pwdin ''[[Gâteau St Honoré]]'', a [[pwff hufen|phyffiau hufen]] sy'n cynnwys [[hufen chwip]]. Mae crystiau sawrus yn cynnwys ''[[gougère]]'', sef cylch ''choux'' a flesir gyda chaws [[Gruyère]] neu [[Emmental]], a ''voul-au-vents'' sy'n cynnwys [[cyw iâr]], [[pysgod]], neu [[berdys]] mewn saws. Mae rhai yn ystyred crwst ''choux'' yn anodd ei wneud, ac os tynnir o'r ffwrn cyn ei bobi'n gadarn i'w gyffwrdd bydd yn cwympo. Ni ddylir ychwanegu'r llenwad nes yr eiliad olaf, rhag ofn i'r crwst gwlychu a gostwng.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.bbc.co.uk/food/choux_pastry |teitl=Choux pastry recipes |cyhoeddwr=[[BBC]] Food |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref>
 
=== Ffilo ===