Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 22:
 
=== Crwst haenog ===
Cymysgir blawd [[glwten]]-isel gyda menyn, [[bloneg]], neu saim llysiau i dorri'r braster yn ddarnau. Defnyddir ychydig iawn o hylif, a chaiff y toes ei drin yn ysgafn.<ref name=EB/> Trwy rolio a phlygu'r toes nifer o weithiau, bydd haenau'r toes yn codi yn y ffwrn gan ffurfio dalennau neu fflawiau tenau. Yn aml dodir sosban llawn dŵr ar waelod y ffwrn tra'n pobi pei sawrus gyda chrwst haenog, gan fydd yr ager yn helpu'r toes codi a rhoi crwst crisbin i ben y bei. Mae crwst haenog yn fwy trwm na chrwst pwff, ac yn haws ei wneud.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.bbc.co.uk/food/flaky_pastry |teitl=Flaky pastry recipes |cyhoeddwr=[[BBC]] Food |dyddiadcyrchiad=9 Mehefin 2015 }}</ref> Math eithriadol o grwst haenog yw ''pâte feuilletée'', a wneir drwy blygu ac ailblygu crwst llawn menyn gan ffurfio cannoedd o haenau o flawd a menyn sy'n codi yn y ffwrn yn 12 gwaith ei uchder.<ref name=EB/>
 
=== Crwst ''choux'' ===