Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pleidleisio"

Ychwanegwyd 1,922 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(termau)
(ehangu)
[[Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad]] yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad.
 
==Gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon==
==Cynulliad Cenedlaethol Cymru==
Yn 2015 beirniadodd y Gymdeithas Newid Etholiadol y system etholiadol 'y cyntaf heibio'r postyn' gan ddweud mai'r Deyrnas Gyfunol yw'r 'wlad olaf yn Ewrop i ddefnyddio system hen ffasiwn, sydd wedi torri.<ref>[http://www.electoral-reform.org.uk/blog/system-crisis#sthash.AYQnqc7q.dpuf 'The Electoral Reform Society'';] Dyfyniad: ''"...we’re the last country in Europe to use the outdated and broken system of First Past the Post."''; Teitil: ''A system in crisis''; adalwyd 10 Mehefin 2015</ref> Awgrymant felly'r system [[Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl]] (neu STV).
 
==Cymru==
===Etholiadau Cyffredinol Cymru===
Yn ôl y Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru (ERS) [[Etholiad Cyffredinol 2015]] oedd y “canlyniad fwyaf anghyfrannol yn hanes y DU”. Yn ôl yr adroddiad aeth 853,000 o bleidleisiau i ymgeiswyr a gollodd a bod 35 o 40 ASau Cymru (sef 88%) wedi cael llai na 50% o bleidleisiau eu hetholwyr – y gyfradd uchaf yn y DU. Mae'r Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru'n cefnogi'r Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl. Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i ni erioed weld pedair plaid wahanol yn ennill yn y pedair gwlad yn y DU, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill yn Lloegr, yr SNP yn yr Alban, y DUP yng Ngogledd Iwerddon a Llafur yma yng Nghymru. Ac eto, fel gyda’r enillwyr yn y rhannau eraill o’r DU, mae’r seddi enillodd Llafur yng Nghymru yn gor-ddweud maint eu buddugoliaeth, gyda Llafur yn ennill 63% o’r seddi ar 37% o’r bleidlais... Rydym wedi gweld manteision system bleidleisio decach yn y Cynulliad, gan roi mwy o lais i bleidiau eraill. Mae’n hen bryd i San Steffan ddal i fyny gyda’r gwledydd datganoledig yn hyn o beth.”<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/189805-ers-galw-am-newid-y-system-bleidleisio golwg360;] Teitl: 
ERS: Galw am newid y system bleidleisio; adalwyd 10 Mehefin 2015</ref>
 
===Cynulliad Cenedlaethol Cymru===
Cynhelir etholiadau i'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] pob pedair mlynedd i ethol 60 o [[Aelodau Cynulliad]]. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r 'system gyntaf i'r felin', ac ail bleidlais er mwyn dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfran y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth. I grynhoi: un bleidlais i'r person a'r ail i'r blaid.