William Morgan (esgob): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Gwyr9 (sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 41:
 
==Ei yrfa==
GanedMarw William Morgan yn [[Tŷ Mawr Wybrnant|Nhŷ Mawr y Wybrnant]], ger [[Penmachno]], yn fab i denant ar ystad [[Castell Gwydir|Gwydir]]. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, [[Morys Wyn]], ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd [[Edmwnd Prys]] fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Goleg Sant Ioan]], [[Caergrawnt]]. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol gan feistroli [[Lladin]], [[Groeg (iaith)|Groeg]], [[Hebraeg]], [[Aramaeg]], [[Ffrangeg]], [[Almaeneg]].
 
Apwyntiwyd ef yn ficer [[Llanbadarn Fawr]] yn [[1572]], yna'r [[Trallwng]] yn [[1575]] a [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant]] ynghyd â [[Llanarmon Mynydd Mawr]] ym [[1578]]. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaer-grawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn [[Esgob Llandaf]] yn [[1595]]. Yn [[1601]] daeth yn [[Esgob Llanelwy]] lle y bu hyd at ei farwolaeth yn [[1604]].