William Morgan (esgob): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwyr10 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Gwyr9 (sgwrs | cyfraniadau) Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 40:
Yr Esgob '''William Morgan''' ([[1545]] - [[10 Medi]] [[1604]]) oedd y gŵr a gyfieithodd [[y Beibl]] yn gyflawn i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl yn [[1588]]. Credir yn gyffredinol mai hynny gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl fel arall am ganrifoedd dan y drefn a osodwyd ar Gymru gyda'r "[[Deddfau Uno]]".
==Ei
Ganed William Morgan yn [[Tŷ Mawr Wybrnant|Nhŷ Mawr y Wybrnant]], ger [[Penmachno]], yn fab i denant ar ystad [[Castell Gwydir|Gwydir]]. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, [[Morys Wyn]], ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd [[Edmwnd Prys]] fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Goleg Sant Ioan]], [[Caergrawnt]]. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol gan feistroli [[Lladin]], [[Groeg (iaith)|Groeg]], [[Hebraeg]], [[Aramaeg]], [[Ffrangeg]], [[Almaeneg]].
|