Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ofn"

Ychwanegwyd 140 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
ffynhonnell
B (cat)
(ffynhonnell)
{{Dim-ffynonellau|date=4/7/12}}
[[Emosiwn]] neu deimlad cryf ac annymunol a achosir gan berygl y credir ei fod ar ddigwydd yw '''ofn'''. Mae'n un o'r emosiynau mwyaf gwaelodol yn y [[meddwl]] dynol. Ar lefel seicosomatig gellid ei ystyried yn fecanwaith amddiffyn mewn dyn, ac mewn anifeiliaid hefyd.
 
Mae ofn wedi chwarae rhan ganolog mewn sawl damcaniaeth [[athroniaeth|athronyddol]], o ddyddiau [[Plato]] ymlaen. Yn ei ''Glaucon'', mae Plato yn dadlau fod ofn canlyniadau ein gweithredoedd yn ein hatal rhag cyflawni drygioni ac felly yn beth da mewn [[cymdeithas]]. Ond mae [[Aristotlys]] yn dilyn trwydded arall gan ddadlau fod gormod o ofn mewn dyn a chymdeithas yn creu llyfndra a gwaseidd-dra, tra bod diffyg ofn yn arwain at weithredoedd gorffwyll; dylai [[dewrder]] gael ei fesuro yn ôl y ffordd mae rhywun yn ymdopi ag ofn oherwydd nid yw osgoi ofn yn bosibl mewn bod rhesymol.
 
Dadleuodd yr athronydd gwleidyddol [[Thomas Hobbes]] fod ofn ein gilydd ac, yn nes ymlaen, ofn pennaeth neu frenin, yn creu cymdeithas. Dadleuir hefyd fod ofn yn deimlad sydd wedi esblygu dros miloedd o flynyddoedd er mwyn cadw pobl mewn trefn ac i fihafio.<ref name=Olsson>{{cite doi|10.1038/nn1968}}</ref>
 
Mewn [[crefydd]], yn arbennig yn y crefyddau mawr [[undduwiaeth]]ol, mae "parchedig ofn" at [[Duw|Dduw]] yn elfen sylfaenol. Yn [[Llyfr Job]] a rhai llyfrau eraill yn y [[Beibl]], sonnir am [[Lefiathan]], yr anifail anhygoel o fawr a grëwyd gan Dduw i greu ofn ar bobl, yn enwedig y balch; cyfeirir at Lefiathan fel duw meidrol.