Losin llygad tarw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Melysion berwi traddodiadol yng Ngwledydd Prydain a chanddynt batrwm troellog o liwiau gwyn a du neu frown yw '''losin llygad tar...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
[[Melysion]] berwi traddodiadol yng [[Gwledydd Prydain|Ngwledydd Prydain]] a chanddynt batrwm troellog o liwiau gwyn a du neu frown yw '''losin llygad tarw''',<ref name=GyA>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [bull's-eye: (sweet)].</ref> '''pelenni mintys'''<ref name=GyA/> neu ar lafar yng Ngogledd Cymru '''lympiau brithion''' (ffurf unigol: lwmpyn brith).<ref name=GyA/><ref>{{dyf GPC |gair=lwmp |dyddiadcyrchiad=16 Mehefin 2015 }}</ref> Gwneir [[surop]] o [[siwgr brown]] a chaiff ei goginio i'r [[melysfwyd#Berwi siwgr|cam hollt feddal]], ac yna ei dorri'n rhannau anghymesur. Tynnir y rhan sy'n lleiaf ei maint gan ei gwneud yn wyn ac anhryloyw. Caiff y rhan sydd yn fwy ei maint ei blasu gyda chymysgedd asidaidd, er enghraifft [[sudd lemwn]] ac [[asid tartarig]], i gadw ei lliw brown claear. Ailgyfunir y ddau surop er mwyn tynnu'r cymysgedd yn stribyn hir, ei dorri, a'i rolio i wneud y melysion. Fel dull arall, gellir arwahanu dau swp o surop, a lliwio un ohonynt.<ref>Davidson, Alan. ''The Oxford Companion to Food'' (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 113–114.</ref>
 
== Gweler hefyd ==
* [[Hymbyg]]
 
== Cyfeiriadau ==