Robert Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

peiriannydd a dyfeisydd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:00, 22 Mehefin 2015

Peiriannydd a dyfeisydd Cymreig oedd Robert Griffiths (13 Rhagfyr 1805 - Mehefin 1883) o fferm Llewenny, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych.

Yn ifanc iawn dysgodd grefft y saer, cyn brentisio mewn peirianneg ym Mirmingham. Yn 1845 aeth i Ffrainc i weithio o dan M. Labruere a sefydlodd weithfeydd peiriannau a gweithfeydd haearn yn Havre am oddeutu 4 blynedd cyn iddynt gau. Yma y crewyd llawer o'r cledrau ar gyfer y rheilffordd o Havre i Baris. Derbyniodd batentau ar gyfer y propelar sgriw (i yrru llongau) yn 1835, peiriant caboli a llyfnu gwydr yn 1836 a nifer o batentau eraill a oedd yn ymwneud â nyts a bolltau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Cylchgronau Cymru Ar-lein; LlGC; adalwyd 22 Mehefin 2015

Llyfryddiaeth

  • Y Bywgraffiadur Ar-lein;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present, 1908;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9258;
  • Notable Welshmen (1700–1900), 1908